Heddlu'n ymchwilio i 'anghysonderau posib' ym Mhowys

  • Cyhoeddwyd
pencadlys Cyngor Powys

Mae'r heddlu yn ymchwilio i "anghysonderau posibl" yn Adran Briffyrdd Cyngor Powys.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys bod y cyngor wedi dod atyn nhw, a'u bod yn gweithio gyda swyddogion yr awdurdod i "ddeall y materion yn llawn".

Nid oedd yr heddlu na'r cyngor am roi manylion am natur yr anghysonderau posibl, ond deellir eu bod yn ymwneud â chamddefnydd maint sylweddol o darmac.

Codwyd pryderon y llynedd gan gynghorydd yn ardal Llangynog yng ngogledd Powys.

Fe wnaeth trigolion gysylltu gyda'r Cynghorydd Bryn Davies ar ôl gweld llwyth o darmac - yr oedden nhw'n credu oedd i fod ar gyfer trwsio ffyrdd yn y pentref - yn cael ei osod ar dramwyfeydd preifat.

Mae cofnodion Cyngor Cymuned Llangynog o Gorffennaf 2020 yn dangos bod cynghorwyr wedi bod yn trafod yr hyn a ddisgrifiwyd fel 'gormodedd o darmac' yn cael ei werthu er bod angen gwaith ar ffyrdd cyhoeddus yn yr ardal.

Dywed un nodyn o gofnodion yr un cyfarfod fod un o'r trigolion lleol wedi cael "hyd sylweddol o'r dramwyfa wedi ei 'rolio' gan gontractwyr y cyngor er bod y ffordd gyhoeddus heb ei gorffen".

Roedd hyn tra bod angen gwaith i drwsio tyllau ar Ffordd Pennant, Ffordd Bala a Chwm Rhiwarth gerllaw, yn ôl y cofnodion.

Ym Medi 2020, cafodd Cyngor Cymuned Llangynog wybod fod y Cynghorydd Bryn Davies wedi "cysylltu gyda'r deilydd portffolio perthnasol parthed tarmac yn cael ei osod ar ffordd breifat".

"Cafodd ateb ar unwaith, fe gafodd swyddog ei yrru i edrych ar y digwyddiad... roedd y swyddog yn bryderus ac yn mynd i ymchwilio," meddai cofnodion y cyngor cymuned.

'Pryder mawr'

Dywedodd llefarydd o Gyngor Powys: "Mae'r cyngor sir yn dal i ymchwilio i'r honiadau ac ni allwn wneud sylw tan y bydd hynny ar ben. Mae trafodaethau wedi bod gyda Heddlu Dyfed Powys ac Archwilio Cymru."

Dywedodd y Cynghorydd Bryn Davies: "Mae'r materion a godwyd yn bryder mawr, ac mae tryloywder yn hanfodol er mwyn deall maint y broblem ac i roi hyder i'r cyhoeddi fod eu harian ac adnoddau'n cael eu defnyddio i'r pwrpas a fwriadwyd."

Dywedodd llefarydd ar ran Archwilio Cymru - y corff sy'n arolygu sut y mae cyrff cyhoeddus yn gwario arian cyhoeddus - eu bod yn ymwybodol o'r mater.

"Fe wnaeth y cyngor ein hysbysu o'u prosesau mewnol wrth ddelio gyda'r mater ynghyd â'u hymrwymiad i adolygu prosesau perthnasol yn yr Adran Briffyrdd, ac i'w cryfhau wrth fynd ymlaen os fydd angen gwelliannau," meddai.

"Dywedodd y cyngor hefyd eu bod wedi trafod gyda Heddlu Dyfed Powys yr anghysonderau posibl, ac fod ymchwiliad wedi dechrau o ganlyniad. Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa."

Pynciau cysylltiedig