Nam golwg 'ddim yn rhwystro' gŵr ifanc o Fôn

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Hari Roberts fod marchogaeth yn rhoi "rhyddid" iddo

Mae gŵr ifanc o Fôn, sy'n byw â nam golwg, yn dweud ei bod hi'n bwysig annog pobl sy'n byw â chyflyrau ar eu llygaid i gyrraedd eu llawn botensial ac i beidio â bod ofn rhoi cynnig ar weithgareddau newydd.

Ers ei eni mae gan Hari Roberts, 19, Leber Ongenital Amaurosis sef cyflwr llygaid sy'n effeithio'n bennaf ar y retina ac yn gwneud gweld yn anodd o ganlyniad.

Er hynny mae o'n ymddiddori mewn gweithgareddau llawn antur fel marchogaeth, dringo, rhedeg a gwneud triathlon.

Mae o'n dweud ei fod rŵan am weld rhagor o bobl sy'n byw â nam golwg yn ceisio cyflawni mwy a pheidio â meddwl am y cyflwr fel rhwystr llwyr.

Erbyn hyn prin iawn yw ei olwg ac mae'n dweud gall y tywydd effeithio'n fawr arno.

'Ffordd o wneud popeth'

Fe gafodd Hari ei eni â'r cyflwr sy'n effeithio ar ei retina ac sy'n gwneud gweld o bell yn anodd.

Ond ers yn ifanc mae'n dweud i'w rieni annog o i geisio cyflawni unrhyw beth yr oedd eisiau ei wneud ac mae'r ethos yna wedi bod yn gefn iddo dros y blynyddoedd.

"Y ffordd dwi'n sbïo arno fo ydi, mae 'na ffordd i wneud popeth," meddai Hari.

"Yn amlwg ga' i ddim dreifio ond mae 'na ddywediad yn Saesneg, 'where there's a will, there's a way' so ma 'na bob tro ffordd o wneud o'n wahanol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Hari Roberts yn dweud ei fod am weld rhagor o bobl sy'n byw â nam golwg yn ceisio cyflawni mwy a pheidio â meddwl am y cyflwr fel rhwystr

Gan ei fod bellach yn gyfarwydd â'r ardal y mae'n byw ynddi mae Hari yn cerdded heb ffon gymorth.

Ond mae cerdded yn weithred syml a hawdd o gymharu â rhai o'r diddordebau y mae wrthi'n eu cyflawni.

Ymysg ei weithgareddau diweddar mae rhedeg, dringo, triathlon a marchogaeth.

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hari hyd yn oed wedi cyflawni triathlon er mwyn codi pres

Mae Hari hefyd wrthi'n cwblhau cwrs Rheolaeth a Gofal Ceffylau yng Ngholeg Cambria yn Llaneurgain ac yn gobeithio astudio hynny ymhellach ym Mhrifysgol Essex y flwyddyn nesaf.

"Dwi newydd wneud cwrs dringo a High Ropes," meddai.

"Dwi 'di bod yn marchogaeth ers yr oeddwn i tua 9 oed.

"Dwi di bod yn sgïo efo'r ysgol, dwi di neud triathlon i godi pres a dwi wrth fy modd yn nofio yn y môr."

'Dallineb ddim yn rwystr'

Gyda chymaint o ddiddordebau na fyddai disgwyl i rywun â nam golwg allu eu cyflawni'n hwylus, mae Hari'n dweud fod nifer yn dal i synnu at ei lwyddiannau.

"Mae pobl yn cael sioc pan dwi'n deud wrthyn nhw be dwi'n 'neud - y peth cyntaf sy'n dod o'u cega ydi, sut?!

"Mae'n anodd esbonio sut ond beth bynnag 'da chi eisiau gwneud mae 'na bob tro ffordd i 'neud o!"

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Nid yw nam golwg Hari yn ei rwystro rhag cyflawni diddordebau heriol fel marchogaeth

Mae Hari bellach wedi cwblhau nifer o weithgareddau gyda chymorth ei deulu a'i ffrindiau ac mae o rŵan am annog eraill i geisio peidio meddwl am gyflyrau nam golwg fel rhwystr.

"Mae'n rhoi rhyddid imi, mae'n rhoi hyder ac yn helpu efo bob dim.

"Ar y llaw arall mae o fyny i'r person ond faswn i ddim lle dwi rŵan heb gael rhieni sydd yn hybu fi i drio pethau newydd.

"Mae nhw'n dweud dydi dallineb ddim yn rhwystro chdi i neud dim byd!"

Cyn dechrau yn y brifysgol ym mis Medi, mae Hari yn gobeithio treulio'r haf yn cyflawni nifer o weithgareddau gan brofi nad yw dallineb yn rhwystr iddo, ac mae ganddo air o gyngor i unrhyw un sydd mewn sefyllfa debyg iddo ond heb hyder.

"Fedrwch chi wneud pethau fath â phobl eraill - mae 'na bob tro ffordd wahanol i chi sbïo ar bethau er mwyn ei wneud o!"

Pynciau cysylltiedig