'Angen taclo unigrwydd ymysg pobl sydd â nam golwg'
- Cyhoeddwyd
Mae angen gwneud mwy er mwyn mynd i'r afael ag unigrwydd ymysg pobl â nam golwg, yn ôl RNIB Cymru.
Mae'r elusen i'r deillion yn dweud mai un o'r rhwystrau mwyaf sy'n wynebu pobl â nam golwg rhag bod yn rhan o gymdeithas ydy rhagfarnau'r cyhoedd.
Yn ôl Faye Jones o Gaergybi, a gollodd ei golwg pan yn 62 mlwydd oed, mae unigrwydd yn broblem fawr ymysg pobl â nam golwg.
Mae hi wedi cael sawl profiad ble mae pobl yn dewis peidio siarad â hi.
"Dwi wedi bod yn sefyll yn siarad gyda ffrind a dwi'n gwybod bod y person arall sy'n siarad efo hi'n fy 'nabod yn lot gwell ond 'da chi'n teimlo fel eich bod chi ar ben eich hun," meddai Ms Jones.
"Dwi'n deall rŵan bod y person arall ddim yn gwybod sut i ymdopi efo'r sefyllfa, ond i ddechrau do'n i ddim yn gallu deall hynny."
Pan gafodd Ms Jones y diagnosis ei bod hi'n colli ei golwg, dywedodd ei fod "fel profedigaeth achos mae'ch golwg yn rhywbeth allwch chi byth ei gael yn ei ôl".
"Mae'r ddwy flynedd gyntaf yn ofnadwy," ychwanegodd.
'Dechrau newydd'
Dros y blynyddoedd diweddar mae Ms Jones wedi dechrau grwpiau gweu a darllen ar draws gogledd Cymru er mwyn i bobl â nam golwg ddod ynghyd i siarad.
"I ddau neu dri o'r bobl yma, dyma'r tro cyntaf iddyn nhw ddod i unrhyw grŵp," meddai.
"Mae o wedi bod yn ddechrau newydd iddyn nhw ac maen nhw'n gallu cadw mewn cysylltiad wedyn.
"Ond mae angen hyder i gerdded i mewn i grŵp fel hyn. Mae hi'n iawn i bobl ddweud 'ymunwch efo grŵp os ydych chi'n teimlo'n unig' ond mae hi'n anodd iawn i bobl ffeindio'r hyder i wneud hynny."
Yn ôl RNIB Cymru, mae unigrwydd yn broblem fawr i bobl â nam golwg.
Mae'n gallu arwain at iselder, meddai Ansley Workman, cyfarwyddwraig yr elusen.
"Mae gwaith ymchwil yn awgrymu bod pedwar ym mhob 10 o bobl â nam golwg yn teimlo fel eu bod, yn rhannol neu yn gyfan gwbl, wedi eu hynysu," meddai.
"Rwy'n meddwl bod pobl yn teimlo fel nad ydyn nhw'n gwybod beth i'w ddweud wrth rywun â nam golwg," meddai Ms Workman.
Ychwanegodd: "Un o'r pethau all pobl wneud ydy gofyn i bobl. Y realiti yw eich bod chi'n dweud wrth rywun, 'ydych chi angen help?' 'Ydych chi angen i mi ddarllen hwn yn uchel i chi?'
"Gofynnwch i bobl os oes 'na rywbeth allwch chi wneud i helpu pobl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mai 2018
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2017