Oes aur newydd i draethau’r gogledd?
- Cyhoeddwyd
Ar gychwyn gwyliau'r ysgol, mae'n ymddangos y gallai rhannau o Gymru'n fod yn brysur tu hwnt.
Yn ôl arolwg yr wythnos hon ar ran cwmni Sykes Holiday Cottages, gogledd Cymru ydy'r gyrchfan fwya' poblogaidd ar gyfer gwyliau ym Mhrydain.
Yn sicr does dim prinder traethau i ddenu'r ymwelwyr, gyda dros 250 o filltiroedd o arfordir.
Ond tra bod ardaloedd ym Môn a Phen Llŷn wedi ffynnu'n ddiweddar, mae trefi fel Y Rhyl - oedd unwaith mor boblogaidd - wedi ei chael hi'n anoddach.
Mae galw rŵan am fuddsoddi a marchnata yn ehangach er mwyn denu ymwelwyr yn ôl.
O'r mulod i'r neuaddau dawns a hwyl y ffair - mae gorffennol Y Rhyl yn rhan o chwedloniaeth gogledd Cymru bron, ac roedd yn un o drefi gwyliau mwya' poblogaidd Prydain ar un adeg.
Gyda chwmni bysus yn y teulu ers y 1960au, roedd Llinos Rawson yn cyfri ei hun yn ffodus o gael mynd ar deithiau - a'r trip Ysgol Sul blynyddol i'r Rhyl yn uchafbwynt.
"Dwi'n cofio bod ar lan y môr pan o'n i'n blentyn ifanc, ac wedyn pan o'n i'n tyfu oeddan ni'n mynd am y ffair. Marine Lake oeddan ni'n galw fo, ond y ffair oedd o, dyna'r dynfa," meddai.
"Roedd ganddon ni ddau lond coach. 41 seaters oeddan nhw felly oedd 'na dros 80 yn mynd ar y tripiau Ysgol Sul yr adeg honno.
"Ar wahân i lan y môr, oedd 'na Punch and Judy - dy'n nhw ddim ar gael rŵan nac ydy.
"Peth arall oedd rhyw fath o arena 'efo beics tair olwyn a ni'r plant yn mynd rownd a rownd.
"Oedd o'n grêt achos doedd gan bob plentyn ddim beic yr adeg honno, so oedd o'n rhywbeth gwahanol."
Ychwanegodd: "Roedd 'na lawer o bobl yn dod i'r Rhyl ar eu gwyliau ac yn aros mewn campiau - pobl yna o bobman.
"Rhai o ganolbarth Lloegr lle oeddan nhw erioed wedi gweld lan y môr o'r blaen, ac wedyn oeddan nhw wrth eu bodd yn dod.
"Ond buan aeth Y Rhyl i lawr oeddwn i'n meddwl. Oedd pethau'n cau ac yn mynd yn flêr."
Mae'r traeth yn Y Rhyl yn ymestyn am filltiroedd - ond ar ôl oes aur y tripiau glan mor, roedd llawer yn gweld y lle wedi dirywio erbyn y 1990au.
Mae 'na ymdrechion ar y gweill i adfywio'r ardal a chryfhau'r cysylltiad rhwng y traeth a'r dre'.
O Bont y Ddraig a gwelliannau'r harbwr, i barc dŵr SC2 - yr Heulfan gynt - mae pethau'n newid yn Y Rhyl ac mae 'na gynlluniau i ailddatblygu Adeiladau'r Frenhines ac ymestyn y Stryd Fawr.
Un peth sy'n denu ymwelwyr ydy Llwybr yr Arfordir, ac wrth ei ddilyn draw i'r gorllewin mae pethau'n prysuro ar gychwyn gwyliau'r haf.
Tra bod trefi fel Biwmares ar Ynys Môn yn ffynnu, mae 'na alw am fuddsoddi a marchnata yn ehangach fel nad ydy ymwelwyr yn heidio i'r un llefydd.
Dywedodd Nia Rhys Jones, cyd-gadeirydd Cymdeithas Twristiaeth Ynys Môn: "Dwi'n meddwl bod ganddon ni gyd ran i'w chwarae mewn lle mae'r ymwelwyr yn mynd - dyna sy'n bwysig.
"'Da ni'n falch o'u croesawu nhw, mae'n ddiwydiant hynod bwysig.
"Mae 'na ddiffyg buddsoddiad mae'n debyg dros y 10 neu 20 mlynedd diwetha' wedi bod yn rhai o'r trefi - mwy tua'r ochr ogledd-ddwyreiniol falle.
"Ond wedyn mae llefydd fel Llandudno yn ffynnu, trefi fel Biwmares, Caernarfon wedi codi ar ei thraed yn dda iawn yn ystod y degawd diwetha' hefyd.
"Mae 'na farchnad bwysig i'r trefi yma i gyd - boed o'n Rhyl, Prestatyn, Biwmares neu Ben Llŷn. Mae 'na farchnad darged i bob cyrchfan wyliau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2019