Cronfa i roi hwb i ganol trefi'r gogledd

  • Cyhoeddwyd
canol dinas bangor
Disgrifiad o’r llun,

Mae canol dinas Bangor wedi cael sawl ergyd yn ystod y pandemig

Mae cynllun i geisio rhoi hwb i ganol pedair o brif drefi'r gogledd wedi cael ei lansio.

Mae Llywodraeth Cymru wedi creu cronfa £3m i geisio adfywio canol trefi sydd wedi cael eu taro'n galed yn ystod y pandemig.

Mae'r cynllun peilot yn gobeithio denu entrepreneuriaid i sefydlu busnesau yn Wrecsam, Y Rhyl, Bae Colwyn a Bangor trwy gynnig cyfuniad o grantiau a benthyciadau o £1,000 hyd at uchafswm o £50,000.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: "Mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio'n ddifrifol ar ganol ein trefi.

"Bydd y gronfa'n cymell entrepreneuriaid ac yn rhoi help llaw iddynt," meddai.

"Y nod yw nid yn unig cynyddu busnesau yng nghanol y trefi hynny ond hefyd cefnogi busnesau newydd."

Bydd y cynllun yn para am flwyddyn i ddechrau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Iwan Williams yn credu y bydd y gronfa'n gwneud gwahaniaeth i ganol Bangor

Mae Bangor wedi colli nifer helaeth o siopau dros y misoedd diwethaf, yn cynnwys enwau mawr y stryd fawr fel Debenhams, H&M, Topshop - Topman, The Body Shop a Peacocks i enwi dim ond rhai.

Dywedodd Iwan Willams, sy'n gyfarwyddwr dinesig gyda Chyngor Dinas Bangor: "Dwi'n meddwl fod y cynllun i'w groesawu, mae mawr ei angen a dwi'n meddwl medrith o wneud gwahaniaeth i ddenu entrepreneuriaid, i ddenu busnesau newydd i Fangor i sefydlu eu hunain yma.

"Does 'na'm dwywaith bod y 12 mis diwetha' a mwy wedi bod yn heriol iawn i Stryd Fawr Bangor ond mae 'na storiâu positif yma, mae 'na fusnesau newydd wedi ymddangos yn yr wythnosau diwetha', ac mae mwy i ddod hefyd.

"Dwi'n teimlo bod y gronfa gan Lywodraeth Cymru yn mynd i helpu i ddod â mwy o lewyrch i'r ddinas."

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bae Colwyn yn un o'r trefi yn y cynllun peilot

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Gogledd Cymru: "Mae'r flwyddyn a hanner diwethaf wedi bod yn gyfnod eithriadol o heriol i fusnesau a chanol ein trefi.

"Bydd prosiectau peilot fel hyn yn helpu canol ein trefi a'n cymunedau i ddelio ag effaith y pandemig."

Yn ôl y cynghorydd Gareth Thomas, aelod Datblygu'r Economi a Chymuned ar gabinet Cyngor Gwynedd roedd unrhyw help ariannol i'w groesawu.

"Cynllun peilot ydi o felly bydd rhaid i ni weld sut mae pethau'n mynd, ond byddwn yn gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried buddsoddi o ddifri yng nghanol ein dinasoedd a'n trefi.

"Mae gwir angen meddwl yn radical amdanynt."