Rhybudd oren cyntaf am wres eithafol i rannau o Gymru

  • Cyhoeddwyd
rhybudd gwresFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd am wres eithafol am y tro cyntaf yn y DU, a fydd yn effeithio ar dde Cymru o brynhawn Llun.

Daeth y rhybudd oren am wres eithafol i rym am 16:05 ddydd Llun, a bydd yn weithredol hyd at 23:59 nos Iau.

Mae gwyliau'r haf wedi dechrau gyda tywydd tanbaid yng Nghymru, gyda'r tymheredd yn cyrraedd 29C yn Sir Fynwy ddydd Sadwrn.

Ond mae disgwyl i'r gwres barhau tan ddiwedd yr wythnos cyn i'r tymheredd ddechrau gostwng ddydd Gwener.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gall y gwres gael effaith ar iechyd pobl a'i fod yn debygol y bydd yn rhaid i bobl newid eu harferion yr wythnos hon i ymdopi gyda'r tywydd.

Disgrifiad,

Y Meddyg Teulu Dr Rhian Williams

Ar raglen Dros Frecwast ddydd Mawrth, bu'r Dr Rhian Williams yn rhoi cyngor i bobl sut i osgoi niwed yn y gwres mawr. Roedd yn cynghori pobl i aros dan gysgod cymaint ag sy'n bosib, ac i yfed digon o ddŵr a defnyddio eli haul os oes rhaid mynd allan.

Cofnododd pedair gwlad y DU ddiwrnod poethaf y flwyddyn dros y penwythnos, ac mae daroganwyr yn rhybuddio y byddai'r tymheredd yn parhau i ddringo - gan gyrraedd hyd at 33C mewn mannau.

Bydd y rhybudd mewn grym yn y siroedd canlynol:-

  • Blaenau Gwent

  • Pen-y-bont ar Ogwr

  • Caerffili

  • Caerdydd

  • Sir Gaerfyrddin

  • Ceredigion

  • Merthyr Tudful

  • Sir Fynwy

  • Castell-nedd Port Talbot

  • Casnewydd

  • Sir Benfro

  • Powys

  • Rhondda Cynon Taf

  • Abertawe

  • Torfaen

  • Bro Morgannwg

Pynciau cysylltiedig