Gwyliau'r haf yn dechrau gyda thywydd tanbaid yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Llyn Tegid
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd rhai o drigolion Y Bala eu bod "erioed wedi ei gweld hi mor brysur" yn Llyn Tegid

Roedd hawl gan fwy o bobl gwrdd dan do mewn cartrefi preifat o ddydd Sadwrn, ond allan yn yr awyr agored fu nifer wrth i Gymru fwynhau penwythnos poetha'r flwyddyn hyd yn hyn.

Roedd y Swyddfa Dywydd yn rhagweld mai Cymru fyddai un o'r llefydd poethaf yn y DU dros y penwythnos, gyda disgwyl iddi gyrraedd 33C yn y de ddydd Sul.

Dydd Sadwrn oedd diwrnod poetha'r flwyddyn hyd yn hyn, gyda'r tymheredd yn cyrraedd 29C ym Mrynbuga, Sir Fynwy.

Mae'n bosib mai dyma fydd penwythnos prysuraf y flwyddyn, gyda thywydd tanbaid, cyfyngiadau'n llacio ac ysgolion wedi cau am yr haf yr wythnos hon.

Ymysg y rheolau eraill i newid ddydd Sadwrn ydy nad oes unrhyw gyfyngiad ar faint o bobl sy'n gallu cwrdd yn yr awyr agored mewn mannau cyhoeddus bellach, ac mae cadw pellter cymdeithasol wedi'i ddileu hefyd.

Disgrifiad o’r llun,

Ynys y Barri brynhawn Sadwrn

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhagweld mai de Cymru fydd un o'r llefydd poethaf yn y DU dros y penwythnos

Ar lannau Llyn Tegid yn Y Bala dywedodd trigolion eu bod "erioed wedi ei gweld hi mor brysur", gydag ymwelwyr wedi bod yn cyrraedd ers "y peth cyntaf y bore 'ma".

Dydd Gwener oedd diwrnod poetha'r flwyddyn yng Nghymru, ac mae disgwyl i'r tymheredd godi ddydd Sadwrn ac unwaith eto ddydd Sul.

Ond gyda thywydd braf daw cyfnod prysur i wylwyr y glannau hefyd, ac roedd y gwasanaethau brys eisoes wedi rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus gyda gwyliau'r haf yn dechrau.

Amser cinio ddydd Sadwrn bu'n rhaid i wylwyr y glannau achub tri o bobl oedd wedi mynd i drafferthion yn padlfyrddio ychydig i'r gorllewin o Ynys Lawd ym Môn.

Mae'r gwasanaethau brys wedi rhybuddio pobl i gadw draw o waelod clogwyni hefyd, wedi i ddyn gael anafiadau i'w ben yn Y Barri ar ôl i garreg ei daro.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd hin brysur iawn ym Metws-y-coed, Sir Conwy hefyd brynhawn Sadwrn

Pynciau cysylltiedig