Ymchwilio i ddefnydd o rym gan heddwas yn ystod arestiad

  • Cyhoeddwyd
CasnewyddFfynhonnell y llun, Black Lives Matter
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r fideos yn dangos yr heddwas mewn ffrwgwd gyda dyn arall

Mae corff annibynnol yn ymchwilio i'r defnydd o rym gan heddwas yn ystod arestiad dyn yng Nghasnewydd.

Mae'r Swyddfa Annibynnol ar Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi lansio ymchwiliad yn sgil y digwyddiad ar ddydd Gwener, 9 Gorffennaf.

Bu dau swyddog mewn cysylltiad â dyn 41 oed yn ymwneud â throseddau gyrru honedig, meddai'r IOPC.

Fe wnaeth Heddlu Gwent gyfeirio ei hun at y corff wedi i fideo ddod i'r amlwg yn dangos ffrwgwd rhwng heddwas a dyn.

Honnir i'r dyn ffoi i ddechrau cyn i swyddog ddod ar ei draws mewn gardd yn ardal Bettws, meddai'r IOPC.

Cafodd fideos o'r ffrwgwd eu rhannu ar-lein gan grŵp Black Lives Matter yn ne Cymru, a honnodd bod y swyddog wedi bod yn rhy llawdrwm.

Mae Heddlu Gwent wedi cydnabod y digwyddiad, gan ychwanegu nad yw'r swyddog mewn rôl weithredol am y tro.

Pynciau cysylltiedig