Dwy filiwn o bobl Cymru wedi cael ail frechiad Covid
- Cyhoeddwyd
Mae dros ddwy filiwn o bobl Cymru wedi cael ail frechiad Covid-19, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.
2,002,162 yw'r nifer sydd wedi'u brechu'n llawn erbyn hyn, ac mae 2,289,142 o bobl wedi cael eu dos cyntaf.
Mae ICC hefyd wedi cofnodi 1,130 achos newydd o Covid a dwy farwolaeth yn rhagor yn y 48 awr hyd at 09:00 fore Sul.
Mae'n golygu mai 238,003 yw cyfanswm yr achosion yng Nghymru ers dechrau'n pandemig a 5,597 yw cyfanswm y marwolaethau dan ddull ICC o gofnodi.
Mae'r gyfradd achosion ar draws Cymru wedi gostwng eto i 169.6 ar gyfer pob 100,000 o'r boblogaeth.
Y gogledd sy'n parhau â'r cyfraddau uchaf - Sir Ddinbych (484.9), Conwy (334.5), Wrecsam (272.9), a Sir Y Fflint (251.8).
Ond mae dwy sir arall y gogledd - Ynys Môn (92.8) a Gwynedd (99.3) - ar waelod y tabl cyfraddau. Sir Gaerfyrddin (98.0) yw'r unig sir arall drwy Gymru sydd â chyfradd is na 100.
O blith yr achosion diweddaraf, roedd 141 yng Nghaerdydd, 90 yn Sir Wrecsam, ac 82 yn Sir Abertawe.