Beiciwr modur yn marw mewn gwrthdrawiad ar yr A44

  • Cyhoeddwyd
Arwydd Capel Bangor ar yr A44Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A44 rhwng Capel Bangor a Goginan

Mae beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A44 yng Ngheredigion.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad tua 15:15 rhwng Capel Bangor a Goginan.

Roedd beic modur Honda oren a lori HGV Volvo glas yn rhan o'r gwrthdrawiad.

Mae swyddogion heddlu arbenigol yn rhoi cymorth i deulu'r beiciwr modur, a fu farw yn y fan a'r lle.

Mae'r heddlu'n credu bod y beic modur ymhlith tri oedd yn teithio tua'r dwyrain, ac yn apelio am wybodaeth a lluniau dash-cam gan unrhyw un oedd yn teithio yn yr ardal ar y pryd.

Pynciau cysylltiedig