Rhai myfyrwyr rhyngwladol yn wynebu ffi cwarantîn o £1,750

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Prifysgol CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Prifysgol Caerdydd ymhlith pedair yng Nghymru a bydd yn talu cost llawn cwarantîn myfyrwyr

Mae'n "annerbyniol" bod rhai myfyrwyr rhyngwladol yn wynebu gorfod astudio o bell tan eu bod yn gallu fforddio talu costau cwarantîn, yn ôl undeb myfyrwyr.

Mae rhai prifysgolion yng Nghymru wedi cynnig talu'r gost o £1,750 ar gyfer myfyrwyr o wledydd sydd ar y rhestr goch.

Mae'n rhaid i gannoedd o fyfyrwyr sy'n teithio o wledydd fel India, Yr Aifft a Kenya dreulio 10 diwrnod mewn cwarantîn mewn gwesty yn Lloegr, o dan y rheolau presennol.

Mae Llywodraeth Cymru'n annog myfyrwyr i ofyn wrth eu prifysgolion am gefnogaeth.

Dywedodd undeb myfyrwyr NUS Cymru bod amrywiaeth yn y fath o gefnogaeth sydd ar gael yn anghywir, gan fod pob myfyriwr rhyngwladol yn talu'r "un ffïoedd uchel" - yn aml rhwng £10,000 a £20,000 y flwyddyn, yn dibynnu ar y cwrs.

Mae mwy na 25,000 o fyfyrwyr tramor yn astudio yn yr wyth prifysgol yng Nghymru.

Dywedodd Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Abertawe y byddan nhw i gyd yn ariannu costau cwarantîn llawn myfyrwyr o wledydd rhestr goch.

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cynnig talu hyd at £1,000 am bob myfyriwr, mae Prifysgol Met Caerdydd a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant ond yn cynnig dysgu o bell tan mae myfyrwyr yn gallu talu ei hunan.

Ni atebodd Met Caerdydd na'r Drindod Dewi Sant i'n cais am sylw pellach, a dydy Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam heb datgelu ei pholisi ynglŷn â ffïoedd cwarantîn.

"Mae myfyrwyr rhyngwladol yn barod yn talu ffïoedd dysgu uwch, a hebddyn nhw byddai prifysgolion yn mewn trafferthion ariannol," meddai llywydd NUS Cymru, Becky Ricketts.

"Mae hefyd yn anghywir bod rhai myfyrwyr rhyngwladol yn cael eu ffïoedd cwarantîn wedi'u talu, tra bod rhaid i fyfyrwyr eraill dalu, a rhai'n aros adref ac yn dysgu ar-lein, i gyd tra'n talu'r un ffïoedd uchel â'r myfyrwyr yn yr ystafell ddosbarth.

"Ni ddylai cefnogaeth ariannol fod yn ddibynnol ar ba sefydliad rydych chi'n dewis mynychu."

Galwodd ar Lywodraeth Cymru i dalu'r costau, gan ddweud os nad oes modd "gwneud y peth cywir" bydd rhaid i brifysgolion "sefyll lan".

'Chi'n poeni a wnaethoch chi'r penderfyniad cywir'

Ffynhonnell y llun, Goretti Njagi
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Goretti Njagi fod astudio ar-lein yn gallu bod yn "unig"

Dewisodd Goretti Njagi, 31, myfyriwr ôl-radd ym Mhrifysgol Abertawe, i ddechrau ei chwrs seicoleg ar-lein o gartref yn Kenya'r llynedd, oherwydd pryderon am deithio yn ystod y pandemig.

"Penderfynais i ddechrau dysgu yn fy ngwlad i'n gyntaf, ond un mis mewn, sylweddolais efallai bydd rhaid i fi wneud hyn am gyfnod hir, felly penderfynais i ddod ta beth.

"O'n i'n edrych ymlaen at ddysgu wyneb-yn-wyneb, ond fe ddiweddais i lan yn cwblhau'r cwrs cyfan bron â bod ar-lein.

"Weithiau mae'n gwneud i chi feddwl a wnaethoch chi'r penderfyniad cywir."

'Methu cael saib'

Mae Kenya wedi cael ei rhoi ar restr goch y DU ers hynny.

Dywedodd Ms Njagi os fyddai hi'n teithio o Kenya eleni, byddai hi'n ystyried astudio ar-lein am hirach.

"Dwi byth wedi dibynnu ar y we, galwadau WhatsApp a Zoom gymaint â'r flwyddyn hon. Chi'n gallu teimlo'n unig ac weithiau chi angen ail-gadarnhad gan eich teulu, ond dyw e ddim yr un peth â chael eich teulu yna gyda chi.

"Roedd yn anffodus pan aeth Kenya ar y rhestr goch i ni. Chi'n meddwl byddech chi'n cael saib i ymweld ag adref o leiaf - hyd yn oed ar gyfer eich iechyd meddwl mae'n eithaf pwysig.

"Ond nawr gyda Kenya ar y rhestr goch mae'n golygu dydych chi methu cymryd saib ac ymweld â'ch teulu."

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Cara Aitchison fod prifysgolion wedi dod i'r arfer â dysgu ar-lein

Dywedodd is-ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Cara Aitchison: "Bydd yna fyfyrwyr yn cyrraedd o wledydd rhestr goch.

"Mae hynny'n amlwg yn llawer mwy cymhleth [oherwydd] byddan nhw'n glanio yn Lloegr ac yna'n teithio i Gymru [wedi cwarantîn]."

Mae'n fater i fyfyrwyr unigol benderfynu pryd maen nhw eisiau teithio i Gymru, meddai'r Athro Aitchison, gyda nifer yn wynebu amgylchiadau unigryw a newidiol yn eu gwledydd eu hunain.

Ychwanegodd fod Llywodraeth y DU nawr wedi rhoi caniatâd i fyfyrwyr rhyngwladol ohirio'u siwrnai, pe bai angen, tan Ebrill 2022, a dechrau eu cyrsiau ar-lein o'u gwledydd eu hunain.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn deall y gall costau cwarantîn fod yn faich ariannol i rai myfyrwyr a dylen nhw siarad â'u prifysgol am ba gefnogaeth sydd ar gael.

"Mae prifysgolion Cymru'n ystyried sut gallan nhw gefnogi myfyrwyr rhyngwladol i ddechrau eu cyrsiau o bell er mwyn iddyn nhw ohirio teithio tra bod cyfraddau achosion a risgiau yn eu gwledydd eu hunain yn uchel."