£50m i golegau a phrifysgolion yn sgil y pandemig
- Cyhoeddwyd
Bydd colegau a phrifysgolion Cymru yn cael £50 miliwn o gyllid ychwanegol medd Llywodraeth Cymru.
Mae'r llywodraeth yn dweud eu bod yn darparu'r arian mewn ymateb i effaith pandemig y coronafeirws ar y sector ac y bydd y sefydliadau yn "chwarae eu rhan" yn adferiad Cymru wedi'r feirws.
£27m fydd yn cael ei rhoi i sefydliadau addysg uwch a'r £23m arall yn cael ei ddarparu i golegau addysg bellach a chweched dosbarth.
Ddydd Llun roedd y corff sy'n cynrychioli sefydliadau addysg uwch, sef Colegau Cymru, yn galw am gefnogaeth ariannol ac am eglurder gan y llywodraeth ynglŷn â'r camau nesaf i'r sector yn sgil y feirws.
Eu dadl oedd bod addysg dysgwyr 16-19 oed yn cael ei anwybyddu a bod sylw Llywodraeth Cymru yn bennaf ar gefnogi a chyllido ysgolion.
Cwestiynau yn parhau
Mae Colegau Cymru wedi croesawu'r cyhoeddiad y bydd mwy o arian yn cael ei rhoi i'r maes.
Dywedodd y Cadeirydd, Dafydd Evans ei fod yn golygu y gallan nhw "gynllunio ar gyfer dychwelyd dysgwyr yn ddiogel i ddarpariaeth wyneb yn wyneb o fis Medi".
Ond mae'r Prif Weithredwr, Iestyn Davies yn dweud bod yna gwestiynau yn dal i fodoli.
"Er ein bod yn croesawu'n gynnes y cyhoeddiad heddiw, erys cwestiynau o hyd ynghylch ymarferoldeb sut y gall pob dysgwr addysg bellach ddychwelyd i addysg yn ddiogel o fis Medi.
"Mae hyn yn arbennig o bwysig i'r nifer fawr o fyfyrwyr 19 oed a hŷn lle mae'r wyddoniaeth yn dweud wrthym fod angen eu trin fel oedolion," meddai.
Mae NUS Cymru wedi dweud bod yr arian yn rhoi "eglurder" i sefydliadau ond nad yw'r arian yn mynd i helpu myfyrwyr yn uniongyrchol.
Roedd arolwg gan yr NUS yn dangos bod 78% o fyfyrwyr yng Nghymru yn pryderu am eu sefyllfa ariannol o achos y feirws gyda bron i hanner oedd yn gweithio rhan amser wedi colli eu hincwm.
Roedd nifer hefyd wedi dweud eu bod yn gorfod parhau i dalu rhent ers mis Mawrth er iddyn nhw fynd i fyw yn ôl adref yn ystod y pandemig.
"Mae'n siomedig nad yw'r pecyn hwn yn cynnwys arian sydd wedi cael ei ddiogelu ar gyfer caledi myfyrwyr.
"Mae yna gynnydd wedi bod yn ystod y pandemig ac fe fydd hyn ond yn gwaethygu yn y misoedd i ddod," meddai Llywydd NUS Cymru, Becky Ricketts.
Ond ychwanegodd fod yr arian yn "mynd yn bell i leddfu ein pryderon am effaith anghymesur y feirws ar fyfyrwyr bregus a rhai sydd ddim yn gyfarwydd ag offer digidol."
Beth fydd yn digwydd i'r arian?
Mae'r llywodraeth yn dweud bod ceisiadau UCAS gan bobl ifanc 18 oed wedi cynyddu.
Ond maen nhw yn cydnabod y gallai'r coronafeirws olygu y bydd rhai yn gohirio mynd i'r brifysgol am flwyddyn. Mae pryderon hefyd am ostyngiad posib yn niferoedd y myfyrwyr rhyngwladol.
Bydd £27m yn cael ei rhoi felly medd Llywodraeth Cymru i brifysgolion i gynnal addysgu ac ymchwil yn y flwyddyn academaidd 2020-21.
O safbwynt colegau addysg bellach neu chweched dosbarth bydd yr arian yn cael ei rhannu gyda'r mwyafrif, sef £15m, yn cael ei rhoi i ddisgyblion rhwng 16-19 oed sy'n dechrau cyrsiau mewn coleg addysg bellach. Mae hyn yn 5% o gynnydd cyllidol ar gyfer bob myfyriwr.
Ymhlith y pethau eraill bydd £3.2 ar gyfer offer digidol a £100,000 ar gyfer cefnogi iechyd meddwl a datblygiad proffesiynol ym maes Dysgu Cymunedol cynghorau lleol.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: "Ni fydd gennym ddarlun llawn o effaith y pandemig ar brifysgolion tan y tymor nesaf, ond bydd y cyllid hwn yn darparu cefnogaeth hanfodol i'n sefydliadau ni wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer yr hydref.
"Nod ein cefnogaeth ni ar gyfer myfyrwyr 16 i 19 oed yw sicrhau nad yw myfyrwyr sy'n dechrau ar gyrsiau ym mis Medi yn wynebu anfantais oherwydd y tarfu maen nhw wedi'i wynebu yn gynharach eleni, ac mae'n rhan o fesurau ehangach i sicrhau bod gennym ni weithlu medrus a fydd yn sbarduno'r adferiad economaidd wedi'r coronafeirws."
Ychwanegodd y bydd y llywodraeth yn ail asesu'r sefyllfa eto yn yr hydref fel bod modd parhau gydag "adferiad economaidd a chymdeithasol" wedi'r pandemig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd20 Mai 2020
- Cyhoeddwyd31 Mai 2020
- Cyhoeddwyd15 Mai 2020