Ymgynghoriad ar gamau i reoleiddio sefydliadau rhyw
- Cyhoeddwyd
Mae cyngor sir yng ngogledd Cymru yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar fabwysiadu grymoedd er mwyn gallu rheoleiddio a thrwyddedu sefydliadau rhyw.
Byddai derbyn y grymoedd hyn yn rhoi'r hawl i Gyngor Gwynedd reoleiddio a thrwyddedu siopau rhyw, sinemâu rhyw a lleoliadau adloniant rhyw.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Griffith, Aelod Cabinet dros amgylchedd a materion trwyddedu: "Ar hyn o bryd, dim ond yn ardal Arfon o'r sir y mae gan y cyngor rym i reoleiddio a thrwyddedu rhai mathau o sefydliadau rhyw, sef siopau rhyw a sinemâu rhyw.
"Ein bwriad ydi ymestyn y grymoedd yma yn ardaloedd Dwyfor a Meirionnydd.
"Rydym hefyd yn awyddus i wneud yn siŵr bod angen trwydded i agor mangre adloniant rhyw unrhyw le yn y sir."
'Cyfreithlon, diogel a phriodol'
Yn ôl Mr Griffith, prin iawn yw'r ceisiadau i leoli sefydliadau o'r fath yng Ngwynedd ond "drwy wneud hyn gallwn sicrhau bod sefydliadau o'r fath yn cael eu rhedeg mewn ffordd gyfreithlon, diogel a phriodol".
Os na fydd y cyngor yn derbyn y grymoedd, bydd sefydliadau rhyw yn parhau i redeg heb unrhyw ffordd i'r cyngor eu rheoli.
"Mae cyfle i unigolion, grwpiau a busnesau gyflwyno sylwadau, a byddwn yn annog unrhyw un sy'n awyddus i ddweud eu dweud i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus," ychwanegodd.
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar agor hyd at 23 Awst, 2021.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2013