Dim medal yn y ras ffordd i Geraint Thomas ar ôl disgyn
- Cyhoeddwyd
Daeth gobeithion Geraint Thomas o ennill medal Olympaidd yn y ras ffordd i ben wedi iddo ddisgyn a chrasio unwaith eto.
Cafodd Thomas ac un arall o reidwyr Tîm GB, Tao Geoghegan Hart eu dal yn y digwyddiad yn gynnar yn y ras.
Er i'r ddau fynd yn ôl ar eu beiciau, tynnodd Thomas, 35, allan o'r ras gyda 60km i fynd.
Richard Carapaz o Ecuador - cyd-feiciwr Thomas yn Nhîm Ineos - enillodd y ras a'r fedal aur, gyda Wout van Aert o Wlad Belg yn cipio'r fedal arian a phencampwr y Tour de France, Tadej Pogacar o Slofenia yn cael efydd.
Un cyfle arall
"Roedd e jyst yn un o'r pethau 'na, fe lithrodd Tao ar ddraen metal yng nghanol y ffordd a doedd gen i nunlle i fynd, es i'n syth lawr," meddai Thomas am y ddamwain.
"Mae'n siomedig ar ôl yr holl waith caled ac aberth, yn enwedig ar ôl y Tour a popeth ddigwyddodd fanno, ond 'dyn ni'n byw i ymladd am ddiwrnod arall.
"Na'i geisio gorffwys nawr a rhoi un cynnig arall iddi ddydd Mercher."
Bydd y Cymro yn cael cyfle arall i fynd am fedal yn y ras yn erbyn y cloc ddydd Mercher, a cheisio goresgyn y rhwystredigaeth o grasio mewn ras fawr unwaith eto.
Ychydig wythnosau yn ôl fe ddatgymalodd ei ysgwydd ar ôl disgyn yn ystod wythnos gyntaf y Tour de France, ac er iddo orffen y ras roedd ymhell tu ôl i'w brif gystadleuwyr yn y dosbarthiad cyffredinol.
Bum mlynedd yn ôl yng Ngemau Olympaidd Rio de Janeiro fe ddisgynnodd yn y ras ffordd hefyd, gan chwalu ei obeithion o ennill aur.
Mae'r gŵr o Gaerdydd eisoes yn bencampwr Olympaidd, gyda dwy fedal aur o'i ddyddiau yn seiclo ar y trac yng Ngemau 2008 a 2012.