Person wedi marw ar ôl syrthio o Grib Goch Yr Wyddfa
- Cyhoeddwyd

Mae person wedi marw ar ôl syrthio o lethrau Crib Goch Yr Wyddfa.
Cafodd Tîm Achub Mynydd Llanberis alwad brynhawn Sadwrn yn dweud bod person yn anymwybodol a ddim yn anadlu ar ôl syrthio o leiaf 80 troedfedd ar lethrau isaf ochr ogleddol Crib Goch.
Cafodd Gwylwyr y Glannau eu galw ynghyd ag uned dronau Heddlu Gogledd Cymru er mwyn helpu dod i hyd i'r claf.
Gafodd ei gludo i'r ysbyty o ardal uchaf Dinas Mot gan hofrennydd Gwylwyr y Glannau. Fe gadarnhawyd bod y claf yn farw pan gyrhaeddodd yr ysbyty.
"Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r claf fu farw," meddai llefarydd ar ran y tîm achub.