'Dim bygythiad i'r Prif Weinidog' medd Heddlu'r De

  • Cyhoeddwyd
Pobl yn protestio
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd delweddau o bobl yn ymgasglu ac yn areithio tu allan i gartref Mr Drakeford eu cyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol

Nid oedd Prif Weinidog Cymru o dan fygythiad ar unrhyw adeg yn ystod protest y tu allan i'w gartref, medd Heddlu'r De .

Cafodd pryderon eu mynegi am ddiogelwch Mark Drakeford wedi'r digwyddiad ddydd Sadwrn.

Ond dywedodd y llu nad oedd gan Mr Drakeford ei hun "unrhyw bryderon am ei ddiogelwch" yn ystod y gwrthdystiad.

Daeth sylwadau'r heddlu wedi i'r AS Llafur Mike Hedges alw ar y prif gwnstabl i ymddiheuro neu ymddiswyddo.

Roedd Mr Hedges, AS Dwyrain Abertawe, wedi cyhuddo'r heddlu o beidio cadw Mr Drakeford yn ddiogel.

Ond dywedodd Heddlu'r De fod Mr Drakeford wedi gwneud "sylwadau positif i swyddogion ar y diwrnod am eu rheolaeth o'r brotest".

Protest heddychlon

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru: "Mae'r hawl i gynnal protest heddychlon yn rhan sefydlog o ddemocratiaeth yn y DU, ac mae gan Heddlu De Cymru record dda o amddiffyn yr hawl yma tra'n cydbwyso hawliau eraill a chadw'r cyhoedd yn ddiogel.

"Dros y penwythnos fe aeth nifer o brotestwyr ar strydoedd Caerdydd i brotestio yn erbyn mesurau clo... oedd yn rhan o ymgyrch genedlaethol.

"Symudodd ffocws y brotest o'r lleoliad gwreiddiol i'r tu allan i gartref y Prif Weinidog Mark Drakeford. Yn unol â chanllawiau, fe siaradodd heddwas (Arolygydd) gyda Mr Drakeford cyn ac yn ystod y brotest, ac fe wnaeth yntau gadarnhau ei fod yn ymwybodol o'r brotest ond nad oedd ganddo bryderon am ei ddiogelwch.

"Cafodd heddweision eu gyrru i'r ardal... fe wnaeth y brotest barhau yn heddychlon cyn gwasgaru wedi cyfnod byr o amser."

Ychwanegodd y llefarydd: "Doedd y Prif Weinidog ddim o dan fygythiad ar unrhyw adeg.

"Roedden ni'n ymwybodol o'r brotest oedd wedi'i chynllunio at ddydd Sadwrn, ac roedd strwythur rheoli cyfan yn ei le. Roedd y brotest yn heddychlon, ac ni chafwyd unrhyw arestiadau.

"Mae'n bwysig nodi fod y Prif Weinidog wedi gwneud sylwadau positif i'r swyddogion ar y diwrnod am eu rheolaeth o'r brotest."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nid ydym yn gwneud sylwadau ar faterion diogelwch, ond hoffwn ddiolch i Heddlu De Cymru am y modd y gwnaethon nhw reoli'r sefyllfa ar y penwythnos."