Achub dwy gafodd eu taro gan fellten ar Yr Wyddfa
- Cyhoeddwyd
Mae dwy ddynes wedi eu cludo i'r ysbyty ar ôl cael eu taro gan fellten ar gopa'r Wyddfa.
Dywedodd Tîm Achub Mynydd Llanberis bod criw wedi eu galw ychydig wedi 13:30 ddydd Mercher.
Dywedodd y tîm bod dwy ddynes wedi derbyn triniaeth, un am fân anafiadau, ac un oedd mewn cyflwr "mwy difrifol".
Cafodd y ddwy ddynes eu cludo mewn hofrennydd i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Ond nid yw'r anafiadau'n peryglu eu bywydau.
Dywedodd Barry Davies, Cadeirydd Tîm Achub Mynydd Llanberis: "Yn ffodus, nid oedd eu hanafiadau cynddrwg ag yr oedden ni'n meddwl felly roedden ni'n gallu eu hebrwng i lawr i Orsaf Clogwyn, lle gawson ni gymorth gan [hofrennydd achub] 936 a wnaeth eu cludo i ysbyty Bangor.
"Roedd yn rhyddhad pan gyrhaeddon ni'r cleifion ein bod yn gallu dod â nhw yn ôl i lawr yn ddiogel oddi ar y mynydd.
"Roedden nhw'n dda iawn. Yn amlwg roedd y sefyllfa wedi eu dychryn, mae'n sefyllfa frawychus i fod ynddi felly roedd popeth yn iawn, nid oedd lefel sylweddol o anafiadau, oedd yn dda iawn ac yn rhyddhad i bawb."