Cyhoeddi rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2021
- Cyhoeddwyd
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi ei rhestr fer ar gyfer gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021.
Cafodd enwau'r 12 llyfr Cymraeg eu datgelu am y tro cyntaf ar raglen Stiwdio BBC Radio Cymru nos Lun.
Mae'r gwobrau yn cael eu rhoi o fewn pedwar categori gwahanol sef Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Plant a Phobl Ifanc.
Bydd enillydd pob categori'n derbyn gwobr o £1,000 ac fe fydd prif enillwyr y wobr yn derbyn £3,000 yn ychwanegol.
Bydd rhestr fer ar gyfer y llyfrau Saesneg yn cael ei chyhoeddi ar raglen BBC Radio Wales Arts Show nos Wener.
Yn ogystal bydd y teitlau ar y rhestr yn cystadlu am wobr Barn y Bobl. Y cyhoedd sydd yn dewis yr enillydd yma a Wales Art Review a Golwg360 sydd yn trefnu'r wobr.
Rhestr Fer Gymraeg 2021
Gwobr Farddoniaeth
Dal i Fod, Elin ap Hywel (Cyhoeddiadau Barddas)
rhwng dwy lein drên, Llŷr Gwyn Lewis (Hunan Gyhoeddedig)
Mynd, Marged Tudur (Gwasg Carreg Gwalch)
Gwobr Ffuglen
Wal, Mari Emlyn (Y Lolfa)
Tu ôl i'r awyr, Megan Angharad Hunter (Y Lolfa)
Twll Bach yn y Niwl, Llio Elain Maddocks (Y Lolfa)
Gwobr Ffeithiol Greadigol
Ymbapuroli, Angharad Price (Gwasg Carreg Gwalch)
Darllen y Dychymyg: Creu Ystyron Newydd i Blant a Phlentyndod yn Llenyddiaeth y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, Siwan M. Rosser (Gwasg Prifysgol Cymru)
O.M.: Cofiant Syr Owen Morgan Edwards, Hazel Walford Davies (Gwasg Gomer)
Gwobr Plant a Phobl Ifanc
Ble Mae Boc? Ar goll yn y chwedlau, Huw Aaron (Y Lolfa)
#Helynt, Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch)
Y Castell Siwgr, Angharad Tomos (Gwasg Carreg Gwalch)
Y beirniaid ar gyfer y llyfrau Cymraeg eleni yw'r bardd a'r awdur Guto Dafydd; yr awdur, cyflwynydd a chyn Fardd Plant Cymru Anni Llŷn; yr awdur, academydd a'r darlithydd Tomos Owen; a'r comedïwr a'r awdur, Esyllt Sears.
Ar ran y panel beirniadu, dywedodd Anni Llŷn: "Roedd hi wir yn fraint cael darllen cynnyrch y casgliad arbennig yma o awduron.
"Mae'r rhestrau byr yn ddathliad o'r meddyliau craff, treiddgar a chreadigol sydd ganddynt. Mae gan pob un o'r rhain rhywbeth o werth i'w ddweud ac maent yn gyfrolau y byddwn yn annog pawb i'w darllen.
"Cefais daith emosiynol yn eu cwmni, o'r torcalonnus i ryfeddu a chwerthin. Cefais fy herio a fy swyno. Cawsom drafodaethau hynod ddiddorol a bywiog wrth feirniadu. Doedd hi ddim yn hawdd dewis o blith cyhoeddiadau gwirioneddol wych ddaeth i fodolaeth yn 2020.
"Ond dylem i gyd ymfalchïo yng nghampau aruthrol yr awduron hyn. Llongyfarchiadau mawr iddynt."
Bydd enillwyr bob categori ac enillydd Llyfr y Flwyddyn yn cael eu cyhoeddi mewn cyfres o ddarllediadau ar BBC Radio Cymru rhwng dydd Llun 2 a dydd Mercher 4 Awst.
Mae gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi cael ei drefnu gan Llenyddiaeth Cymru ers 2004, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae rhai o awduron enwocaf Cymru wedi derbyn gwobrau ochr yn ochr â thalentau newydd.
'Cynnig cysur a chwmnïaeth'
Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: "Mae'r rhestr fer hon yn adlewyrchu ystod o leisiau aruthrol awduron Cymru, yn ystod cyfnod eithriadol o anodd.
"Mae nifer ohonom wedi dianc rhwng cloriau llyfr da yn ystod y deunaw mis diwethaf, ac mae cynnyrch y rhestr fer hon yn sicr wedi cynnig cysur a chwmnïaeth i sawl darllenydd."
Bydd yr enillwyr yn y categorïau Saesneg yn cael eu cyhoeddi ar raglen BBC Radio Wales Arts Show nos Wener o 6.30yh ymlaen.
Y beirniaid ar gyfer y gwobrau hyn yw'r bardd, awdur a dawnsiwr Tishani Doshi; yr athro cynradd, adolygwr a'r dylanwadwr Scott Evans; y Paralympiwr, yr aelod o Dŷ'r Arglwyddi, siaradwr cymhelliant a'r darlledwr Tanni Grey-Thompson; a'r academydd, awdur ac actifydd, a chyn-enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn (2003), Charlotte Williams.
Bydd enillydd pob categori yn y ddwy iaith yn derbyn gwobr o £1,000 ac fe fydd prif enillwyr y wobr yn derbyn £3,000 yn ychwanegol.
Yn ogystal â hyn bydd pob enillydd yn derbyn tlws Llyfr y Flwyddyn sydd wedi'i ddylunio gan yr artist a gof Angharad Pearce Jones.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd10 Mai 2019