Y Llewod yn gobeithio selio'r gyfres yn Cape Town

  • Cyhoeddwyd
Alun Wyn JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Alun Wyn Jones yn ennill ei 11eg cap i'r Llewod ddydd Sadwrn

Bydd Alun Wyn Jones yn gobeithio arwain y Llewod at fuddugoliaeth yn yr ail brawf yn erbyn De Affrica yn Stadiwm Cape Town ddydd Sadwrn, a sicrhau'r gyfres ar yr un pryd.

Yn dilyn eu buddugoliaeth o 22-17 yn y prawf cyntaf, capten Cymru fydd yn arwain y tîm unwaith eto, gan ennill ei 11eg cap i'r Llewod.

Byddai buddugoliaeth arall felly yn selio'r gyfres i dîm Prydain ac Iwerddon - y gyntaf ers 1997 yn dilyn colled o 2-1 ar eu hymweliad diwethaf yn 2009.

Bydd yr ail brawf yn dechrau am 17:00 amser Cymru ddydd Sadwrn.

Rassie ErasmusFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rassie Erasmus wedi dweud yr wythnos hon ei fod eisiau "cyfle cyfartal" gan y dyfarnwyr yn yr ail brawf

Mae'n deg i ddweud nad ydy carfan a thîm hyfforddi'r Springboks wedi cymryd y golled yn dda, gyda beirniadaeth lem o'r tîm dyfarnu dros yr wythnos ddiwethaf.

Fe wnaeth y prif hyfforddwr Rassie Erasmus roi fideo awr o hyd ar-lein yn beirniadu penderfyniadau'r dyfarnwr Nic Berry o Awstralia yn y prawf cyntaf, tra bo'r capten Siya Kolisi wedi dweud ei fod wedi teimlo "diffyg parch" ganddo.

Mae'r Llewod wedi wfftio'r honiadau nad oedd y dyfarnu'n deg, ond mae'n siŵr o roi mwy o dân ym moliau chwaraewyr y ddau dîm ddydd Sadwrn.

Presentational grey line

Dadansoddiad sylwebydd rygbi BBC Cymru Cennydd Davies.

Mae 'rant' Rassie ar wefusau pawb cyn yr ail brawf yn Cape Town ag os mai'r bwriad oedd tynnu sylw oddi ar y pwysau sy'n wynebu'r Springboks yna mae'r dacteg yn sicr wedi llwyddo.

Yn anffodus dyw tanlinellu ffaeleddau swyddogion ddim yn newydd ac yn digwydd yn amlach yn ddiweddar.

Dyw'r Llewod ddim yn gwbl ddi-fai fan hyn chwaith, ac mae angen i World Rugby weithredu drwy gosbi'r unigolion hynny sy'n barod i bardduo dyfarnwyr yn gyhoeddus.

Mae un bron yn gallu anghofio bod y Llewod o fewn 80 munud i gipio cyfres yn Ne Affrica ac efelychu timau'r gorffennol ym 1974 ac 1997.

Bydd hi'n frwydr glos, gorfforol arall a gallwch chi ddisgwyl i'r Boks ddechrau'n ffyrnig â chymaint yn y fantol.

Cwblhau'r dasg a sicrhau nad yw'r cyfan yn dod lawr i'r trydydd a'r prawf olaf yw'r nod i Warren Gatland, ac mae digon o allu gan yr ymwelwyr i wneud hynny er mwyn cael eu dyrchafu i oriel yr anfarwolion.

Disgrifiad,

Dywedodd Robin McBryde na fydd sylwadau Rassie Erasmus yn cael effaith ar garfan y Llewod

Mae hyfforddwr blaenwyr y Llewod, Robin McBryde wedi galw am symud 'mlaen o'r ffrae, gan ddweud ei fod yn gobeithio y bydd gêm dda yn yr ail brawf yn helpu pobl i "anghofio am yr hyn sydd wedi digwydd yr wythnos hon".

Ond ychwanegodd ei fod yn disgwyl ymateb ffyrnig gan y Springboks ddydd Sadwrn, ac y byddai'r Llewod yn siŵr o wynebu her gorfforol.

Dywedodd y byddai'n disgwyl i'r tîm cartref fod yn "fwy ymwybodol fyth" i "brofi pwynt".

Taulupe FaletauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Taulupe Faletau yn debygol o ennill ei bumed cap i'r Llewod oddi ar y fainc yn Cape Town

Mae Warren Gatland wedi gwneud tri newid i dîm Y Llewod, gyda dau Gymro'n dal i ddechrau a dau arall ar y fainc.

Bydd y mewnwr Conor Murray, y canolwr Chris Harris a'r prop Mako Vunipola yn dod i mewn i'r 15 sy'n dechrau yn lle Ali Price, Elliot Daly a Rory Sutherland.

Mae Dan Biggar yn cadw ei le fel maswr, er iddo orfod gadael y maes gydag anaf i'w ben y Sadwrn diwethaf.

Yn ôl y disgwyl, nid yw prop Cymru a'r Scarlets, Wyn Jones, wedi dod dros yr anaf i'w ysgwydd a orfododd iddo fethu'r prawf cyntaf.

Mae wythwr Cymru, Taulupe Faletau, ymysg yr eilyddion gyda'r bachwr Ken Owens, ond mae'r cefnwr Liam Williams wedi colli ei le ar y fainc.

Presentational grey line

Y tîm yn llawn

Stuart Hogg; Anthony Watson, Chris Harris, Robbie Henshaw, Duhan van der Merwe; Dan Biggar, Conor Murray; Jack Conan, Tom Curry, Courtney Lawes, Alun Wyn Jones, Maro Itoje, Tadhg Furlong, Luke Cowan-Dickie, Mako Vunipola.

Eilyddion: Ken Owens, Rory Sutherland, Kyle Sinckler, Tadhg Beirne, Taulupe Faletau, Ali Price, Owen Farrell, Elliot Daly.

Pynciau cysylltiedig