'Mwy o gymorth i eisteddfodau bach yn y dyfodol'
- Cyhoeddwyd
Mae 'na awgrym y bydd mwy o gefnogaeth i eisteddfodau lleol yn y dyfodol i ddelio â materion fel rheolau iechyd a diogelwch, sgiliau digidol a chasglu arian.
Mae Cymdeithas Eisteddfodau Cymru yn lansio cyfres o sesiynau fydd yn cychwyn yn yr hydref lle bydd cyngor a chyfarwyddyd ar gael gan arbenigwyr yn y maes i bwyllgorau eisteddfodau lleol.
Dywedodd Aled Wyn Phillips, swyddog datblygu'r Gymdeithas: "Mae tua 120 o steddfodau lleol ar hyd a lled y flwyddyn, pob un wedi eu trefnu gan griw o bwyllgor lleol gwirfoddol. Mae criteria pob un yn wahanol i'w gilydd.
"O blith y rhain mae rhai wedi penderfynu gadel hi am flwyddyn arall oherwydd rheolau iechyd a diogelwch, ond mae ambell un arall wedi gweld cyfle i ddod at eu gilydd yn rhithiol."
Dros y chwe mis diwetha' mae hyd at 12 o eisteddfodau wedi cynnal naill ai gwaith cartref neu wedi bod yn gweithio ar Facebook yn rhithiol.
Dim ond 'chydig wythnosau'n ôl roedd Eisteddfod Powys wedi denu 1,200 o gystadleuwyr.
Wrth edrych i'r dyfodol mae Mr Phillips yn rhagweld ei fod yn ddigon posib y bydd elfennau rhithiol yn parhau ar ôl y pandemig.
"Fydde ni'n meddwl - o ystyried be ni'n clywed gan steddfodau a chymdeithasau eraill - y bydd yna 'chydig bach o'r ddau yn y dyfodol," meddai.
"Yn bendant y prif fwriad yw dod 'nôl, fel bod pobl yn gallu cymdeithasu, joio mynd i bwyllgor a gweld y digwyddiad yna.
"Ond i bobl er'ill maen nhw'n gweld cyfle i ymestyn cynulleidfa yn fwy na beth yw maint neuadd neu gapel."
'Dysgu gan drefnwyr gwyliau eraill'
Her i bwyllgorau Eisteddfodau yn y pandemig yw cynnal egni a brwdfrydedd pwyllgorau a chystadleuwyr.
Yn ôl Mr Phillips: "Mae'n rhaid atgoffa pobl am yr opsiwn i ddod 'nôl ac ailafael pan bo' hi'n ddiogel i 'neud hynny a bo' nhw'n gyfforddus i 'neud hynny.
"Felly ry'n ni nawr yn lansio cyfres o weithgareddau o'r hydref 'mla'n yn annog pobl i ystyried ffactorau os ydyn nhw, er enghraifft, yn poeni neu ganddyn nhw ddiffyg hyder digidol, neu yn poeni am oblygiadau ariannol.
"Felly bydd cyfres o sesiynau i glywed profiadau pobl sy'n trefnu'n rhithiol fel yr Eisteddfod Genedlaethol a Tafwyl fel bo' ni'n cael ein hysbrydoli a dysgu gan brofiadau pobl er'ill a digwyddiade' mawr a pha elfennau allwn ni ddysgu, defnyddio a datblygu yn ein cymunedau lleol."
Mae'n cyfadde' bod y dyfodol yn ansicr: "'S'neb yn siŵr beth yw y dyfodol ond allwn ni ddim aros yn yr unfan. Efalle bod cyfle fan hyn i ail ystyried ambell beth.
"Ni ishe cynnal safonau, mae steddfodau lleol yn ddigwyddiadau mawr ac ma' rhain yn meithrin a datblygu talent i lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol."
Mae'n bosib y bydd mwy o gefnogaeth yn y dyfodol i eisteddfodau, meddai.
"Ni wedi gweld o brofiad pobl sy'n mynd yn rhithiol. Os yw neuadd cymuned yn dal 100-200 ma' rhai steddfodau wedi profi bod 1,000-1,500 wedi gwylio nhw ar YouTube, Facebook ac yn y bla'n.
"Dwi ddim yn dweud mai dyna'r ateb i bopeth ond mae'n dangos bod cyfle i ymestyn y tu hwnt i ffiniau."
Un eisteddfod leol sydd wedi arbrofi yn rhithiol yw Eisteddfod y Rhondda, gafodd ei sefydlu yn 2020.
Yn ôl Seren Haf Macmillan, sydd yn aelod o'r pwyllgor, roedd yr ymateb yn "anhygoel".
"Ry'n ni wedi cynnal lot o gystadlaethau traddodiadol yn ogystal â chystadlaethau sy'n addas ar gyfer y llwyfan digidol," meddai.
"Mae gan y steddfod wefan ei hun a hefyd mae'r cyfryngau cymdeithasol yn bwysig i ni.
"Fe gawson ni dros 80 o bobl wedi cystadlu o bob rhan o Gymru. Ma' hynna'n hollol wahanol i be' oedden ni yn ei ddisgwyl.
"Ry'n ni wedi dysgu pwysigrwydd y cyfryngau cymdeithasol - dyna'r platfform i drio cyrraedd pobl sy' ddim yn lleol a phobl ifanc.
"Ond y nod yw cynnal Eisteddfod draddodiadol yn y dyfodol. Bydd Steddfod y Rhondda yn rithiol ar 8 Hydref eleni, ond gobeithio blwyddyn nesa' bydd cyfle i bawb ddod at ein gilydd... dyna yw'r nod. Mae'r cymdeithasu mor bwysig i ni gyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd16 Mai 2021
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2021