Abertawe yn penodi Russell Martin yn brif hyfforddwr

  • Cyhoeddwyd
Russell MartinFfynhonnell y llun, Dimitris Legakis
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Martin lai nag wythnos cyn ei gêm gystadleuol gyntaf gydag Abertawe - yn erbyn Blackburn yn y Bencampwriaeth ar 7 Awst

Mae Abertawe wedi penodi Russell Martin yn brif hyfforddwr yn dilyn ymadawiad Steve Cooper.

Mae Martin, 35, wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda'r Elyrch.

Y gred yw bod Abertawe wedi talu tua £400,000 mewn iawndal i MK Dons i sicrhau gwasanaethau cyn-chwaraewr rhyngwladol yr Alban.

Bydd tri aelod o'i staff hyfforddi yn MK Dons yn ymuno â Martin yn Abertawe - Luke Williams, Matt Gill a Dean Thornton, tra bydd Alan Tate yn parhau fel hyfforddwr y tîm cyntaf.

Trodd Abertawe at Martin ar ôl i is-reolwr Queens Park Rangers, John Eustace wrthod symud i Gymru y penwythnos diwethaf.

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X gan Swansea City AFC

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X gan Swansea City AFC

Fe wnaeth Cooper adael ei swydd yn Stadiwm Liberty ym mis Gorffennaf wedi dwy flynedd yn y rôl.

Llwyddodd i arwain y clwb i gemau ail gyfle Y Bencampwriaeth yn ei ddau dymor wrth y llyw.

Yn y cyfamser, mae MK Dons wedi cyhoeddi datganiad yn dweud pa mor "hynod siomedig" yw'r clwb ynglŷn ag amseriad ymadawiad Martin.