Canolfan Iâ Cymru 'ar ei gliniau' wrth aros ar gau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Canolfan Iâ CymruFfynhonnell y llun, Getty Images

Gallai Canolfan Iâ Cymru golli hyd at £100,000 yn fwy os nad yw Llywodraeth Cymru'n caniatáu i loriau sglefrio iâ ailagor erbyn mis Awst.

Dywed y ganolfan, cartref tîm hoci iâ Cardiff Devils, eu bod eisoes wedi colli mwy na £500,000 ers gorfod cau ym mis Mawrth 2020 yn sgil y pandemig.

Mae bron i 4,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw ar y Prif Weinidog i ganiatáu i'r ganolfan ailagor, er bod Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd saib o bedair wythnos cyn llacio mwy o gyfyngiadau.

Yr unig gyfleusterau hamdden sy'n parhau i fod ar gau yng Nghymru yw lloriau sglefrio, clybiau nos a lleoliadau adloniant i oedolion.

'Ar ein gliniau'

Dywedodd Todd Kelman, Rheolwr Gyfarwyddwr Cardiff Devils: "Mae'n cymryd chwe wythnos i gael yr adeilad yn ôl ar agor ac rydym wedi gorfod cymryd risg i ddechrau'r broses o ailagor erbyn 1 Awst.

"Os bydd rhywun yn dweud wrthym na allwn agor erbyn hynny, byddwn wedi mynd all out i ailagor a cholli bron i £100,000 mewn costau ailagor.

"Mae hyn ar ben costau rhedeg, sydd rhwng £25,000 a £40,000 y mis ers i ni gau 15 mis yn ôl.

"Rydym ar ein gliniau yma... Ni yw'r unig lawr sglefrio iâ yn y DU sydd dal ddim yn cael ailagor eto."

Ychwanegodd Mr Kelman bod nifer o'u cwsmeriaid naill ai'n teithio i Loegr i sglefrio, neu'n rhoi'r gorau i sglefrio yn gyfan gwbl.

Mae rinciau sglefrio iâ yn Lloegr wedi bod ar agor ers canol mis Mai.

"Mae'n sefyllfa ofnadwy ac mae angen i Lywodraeth Cymru ddangos i ni pam bod angen i ni fod ar gau, neu gadael i ni ailagor," meddai.

Sglefrwyr Cymru dan 'anfantais'

Mae pryder y gallai'r oedi i ailagor hefyd effeithio ar hoci iâ ar lawr gwlad yng Nghymru, yn enwedig ymhlith y grwpiau oedran iau.

Dywedodd Jason Lambly, hyfforddwr tîm dan-11 oed y Devils: "Mae ambell un wedi mynd i ffwrdd o'r clwb. Roedd gennym niferoedd da o'r blaen ond mae'n anodd dweud eto faint fydd yn ail-ymgysylltu nes bod y rhew yn barod i fynd.

"Mae llawer o'r plant wedi ymuno â chlybiau yn Lloegr dros dro, gobeithio dros dro, gan fod y llawr sglefrio ar agor yno."

Mae Kian, naw oed, yn un o'r aelodau iau ac yn awyddus i fynd yn ôl ar y rhew.

Dywedodd: "Rydw i ychydig yn siomedig gan nad ydyn ni'n cael mynd ar y rhew oherwydd bydd y timau eraill yn y DU rydyn ni'n chwarae yn eu herbyn wedi cael mwy o ymarfer na ni pan rydyn ni'n mynd i chwarae gemau.

"Dwi hefyd ddim yn gweld sut y gallwn ni chwarae hoci rholer ond nid hoci iâ."

Mae'r penderfyniad hefyd yn effeithio ar sglefrwyr ffigwr o bob rhan o dde Cymru.

Mae dwsinau o sglefrwyr ffigwr yng Nghaerdydd wedi gwario cannoedd o bunnoedd ar lafnau rholer arbenigol i ymarfer ar y concrit y tu allan i Ganolfan Iâ Cymru.

Mae Lily, 13 oed, wedi bod yn sglefrio iâ am y rhan fwyaf o'i bywyd. Mae hi i fod yn cystadlu mewn cystadleuaeth sglefrio ffigwr mewn ychydig wythnosau, ond mae hi'n poeni y bydd ei chyd-gystadleuwyr yn Lloegr wedi paratoi'n well.

Dywedodd Lily: "Dwi 'chydig yn nerfus. Mae sglefrwyr ffigwr yn Lloegr wedi gallu hyfforddi pryd bynnag maen nhw eisiau ond dim ond cwpl o weithiau yr wythnos rydyn ni wedi gallu mynd yno i ddefnyddio'r rhew, felly dwi'n meddwl y bydd hi'n anodd oherwydd byddwn ni dan anfantais."

Mae Ceri Davies Jeans yn un o nifer o rieni sydd wedi bod yn teithio i Coventry bob penwythnos a Swindon yn ystod yr wythnos fel y gall ei merch ddefnyddio'r llawr sglefrio iâ yno."Mae'n golygu deffro am 03:00 a gadael y tŷ i deithio i Coventry ar benwythnosau.

"Maen nhw'n sglefrio yno ar y rhew am ddwy awr a hanner, yna mae'n daith dwy awr arall yn ôl adref.

"Mae'n costio llawer o arian i ni mewn petrol ac weithiau arosiadau gwesty, ac wrth gwrs mae'n cymryd y penwythnos gyfan.

"Dwi ddim yn gweld sut mae'r rinciau mewn mannau eraill wedi ailagor ac eto mae gennym un llawr sglefrio iâ yma yng Nghaerdydd ac nid yw Llywodraeth Cymru yn caniatáu iddo ailagor."

'Trafodaethau parhaus'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi saib pedair wythnos i unrhyw newidiadau pellach i reolau'r coronafeirws oherwydd lledaeniad yr amrywiolyn Delta.

"Mae swyddogion Llywodraeth Cymru mewn trafodaethau parhaus gyda Chanolfan Iâ Cymru ynglŷn â'r posibilrwydd y bydd chwaraewyr chwaraeon yn dychwelyd i'r rhew, pan fydd yn ddiogel i wneud hynny."