Disgwyl i Crystal Palace benodi Roberts fel is-reolwr
- Cyhoeddwyd

Roedd Roberts yn bresennol yn ystod gem gyfeillgar Crystal Palace yn erbyn Reading ddydd Sadwrn
Mae disgwyl i Crystal Palace benodi cyn is-reolwr tîm pêl-droed Cymru, Osian Roberts, fel is-reolwr newydd.
Fe wnaeth Roberts, 57, adael ei rôl fel cyfarwyddwr technegol Cymdeithas Bêl-droed Moroco ym mis Gorffennaf.
Cyn iddo gael ei benodi i'r swydd honno roedd o wedi treulio 12 mlynedd gyda'r tîm cenedlaethol gan gynnwys cyfnodau fel is-reolwr i Ryan Giggs, Chris Coleman a Gary Speed.
Cafodd Patrick Vieira ei benodi fel rheolwr newydd Crystal Palace fis diwethaf.
Fe wnaeth Vieira ennill ei gymwysterau hyfforddi ar un o gyrsiau Cymdeithas Bêl-droed Cymru, oedd yn cael ei oruchwylio gan Roberts.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Awst 2019
- Cyhoeddwyd7 Awst 2019