Y Llewod yn mentro er mwyn llwyddo ar y cymal olaf

  • Cyhoeddwyd
Warren GatlandFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Warren Gatland wedi mentro, gan wneud chwe newid i'r tîm a gafodd eu trechu yn yr ail brawf

Dyw'r sefyllfa bresennol ddim yn ddiarth i Warren Gatland.

Ar ôl colli'r ail brawf ym Melbourne wyth mlynedd yn ôl roedd y Llewod o dan y lach, a'r hyder yn llifo trwy wythiennau'r Wallabies, oedd yn ffefrynnau i fynd ymlaen i gipio'r prawf olaf a'r gyfres yn Sydney.

Roedd yn rhaid i'r ymwelwyr ymateb, a dyma'r hyfforddwr yn gwneud hynny wrth wneud newidiadau lu ar gyfer y gêm a 10 o Gymru wedi'u cynnwys yn y 15 cychwynnol.

Wyth mlynedd yn ddiweddarach a dyw'r sefyllfa ddim yn annhebyg - roedd yn rhaid ad-drefnu wedi'r golled swmpus yn Cape Town a mynd i'r afael â pherfformiad oedd mor siomedig.

Stadiwm Cape TownFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Stadiwm Cape Town fydd y llwyfan ar gyfer y prawf olaf - yr un lleoliad â'r ail brawf siomedig i'r Llewod

Yn hynny o beth mae Gatland wedi rholio'r dis.

Does dim ail gyfle ac mae gwaddol y dyn fel hyfforddwr y Llewod yn y fantol - ennill ac mae'n ymuno â Syr Ian McGeechan wrth ennill cyfres am yr eildro, ond os colli bydd 'na deimlad gwag anorffenedig.

Y Cymry 'nôl ac yn barod i danio

Does dim dwywaith, roedd nifer o chwaraewyr y penwythnos diwethaf oedd ddim ar eu gorau ac mae nifer o enwau mawr wedi talu'r pris - Stuart Hogg ac Anthony Watson yn eu plith.

Ers y broses o ddewis carfan mae ôl Gregor Townsend ar ddewisiadau penodol wedi bod yn amlwg - ond, os oedd 'na gyfaddawdu ar benderfyniadau yn yr wythnosau blaenorol, heb os tîm Warren Gatland yw hwn!

Mae'r gŵr wedi troi 'nôl at y rheiny mae e'n eu 'nabod orau, a sawl Cymro wedi elwa.

Josh AdamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Josh Adams wedi ennill ei le mewn gêm brawf o'r diwedd, ar ôl sgorio wyth cais ar y daith hyd yma

Roedd nifer o wybodusion yn cwestiynu absenoldeb Josh Adams - wedi sgori wyth o geisiau ar y daith hyd yma, doedd y gŵr o'r Hendy ddim wedi gallu gwneud mwy i greu argraff.

Yn dda o dan y bêl uchel, yn weithgar oddi ar yr asgell ac yn glinigol yn ymosod, ffolineb llwyr oedd peidio ei gynnwys tan nawr.

Yn debyg iawn does neb yn well o dan y bel uchel na Liam Williams. Dirgelwch mawr felly oedd ei absenoldeb y Sadwrn diwethaf pan roedd hynny'n rhan allweddol o gynllun y Springboks.

Er bod 'na lai o ad-drefnu ymhlith y blaenwyr, mae presenoldeb Wyn Jones a Ken Owens i'w gymeradwyo ac mi fydd trigolion ardal Llanymddyfri'n ymfalchïo o weld Jones yn cael ei gyfle haeddiannol o'r diwedd wedi'r torcalon o dynnu 'nôl o'r prawf cynta' oherwydd anaf i'w ysgwydd.

Mae'r ddau o'r Scarlets, ynghyd ag Alun Wyn Jones, yn codi'r gynrychiolaeth o Gymru i chwech - sy'n fwy o adlewyrchiad teg o gofio mai Cymru yw pencampwyr y Chwe Gwlad.

Wyn JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Wyn Jones yn ôl yn y tîm ar ôl colli'r ddwy gêm gyntaf gydag anaf i'w ysgwydd

Rant Rassie a'r frwydr eiriol

Yn anffodus mae'r frwydr eiriol wedi bod yn thema barhaol trwy gydol y gyfres.

Ma' World Rugby yn hollol gywir i gyhuddo Rassie Erasmus o ddwyn anfri ar y gêm wedi'r fonolog ryfeddol yn tanlinellu ffaeleddau'r dyfarnwr wedi'r prawf cyntaf.

Faint o ddylanwad gafodd hynny yn y pendraw? Mae'n anodd gwybod, ond tro'r Llewod oedd derbyn cerydd y dyfarnwr yn nhermau ciciau cosb y tro hwn.

Rassie ErasmusFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Rassie Erasmus yn wynebu gwrandawiad World Rugby yn dilyn ei ymddygiad rhwng y ddau brawf cyntaf

Y gobaith yw y bydd sylw pawb bellach yn troi at yr hyn sy'n digwydd ar y cae.

Sôn am y gêm, y teimlad cyffredinol yw y bydd gofyn i'r Llewod fentro mwy a dangos dewrder os am gipio'r gyfres.

Dim ond un cais mae'r ymwelwyr wedi sgorio hyd yma a'r cais hwnnw yn deillio o'r safle gosod.

Ail brawfFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd angen i'r Llewod fod yn fwy disgybledig ar ôl bod yn euog o ildio gormod o giciau cosb yn yr ail brawf

Ar hyd ei yrfa ma' Warren Gatland wedi bod yn hyfforddwr ceidwadol, pragmataidd sydd wedi ennyn llwyddiant, ond mi oedd 'na deimlad yn yr ail brawf bod y Llewod wedi mynd mas i beidio colli yn hytrach na mynd yno i ennill.

Wedi'r hyn ddigwyddodd y Sadwrn diwetha', bydd y Springboks yn hyderus ac yn dechrau fel ffefrynnau o drwch blewyn.

Ond da chi, peidiwch â diystyru'r Llewod o dan Warren Gatland. Ar hyd y blynyddoedd mae ar ei orau o dan bwysau - dyw'r sefyllfa bresennol ddim yn wahanol!

Pynciau cysylltiedig