David Thomas yw Dysgwr y Flwyddyn yr Eisteddfod AmGen
- Cyhoeddwyd
Dysgwr y Flwyddyn eleni yw David Thomas, sydd o Gaerdydd yn wreiddiol ond bellach yn byw ger Caerfyrddin.
Cafodd ei anrhydeddu mewn seremoni ar BBC Radio Cymru fel rhan o'r Eisteddfod AmGen, a hynny yn dilyn cystadleuaeth o safon uchel iawn yn ôl y beirniaid.
Roedd pedwar ar y rhestr fer eleni: David Thomas, Gosia Rutecka, Rob Lisle a Jo Heyde, a thasg y beirniaid oedd dewis un enillydd. Yn dilyn trafodaethau hir a manwl, cytunwyd i wobrwyo David.
Y beirniaid eleni oedd Shirley Williams, Hannah Thomas a Hanna Hopwood Griffiths.
O Gaerdydd yn wreiddiol, mae David Thomas yn disgrifio'i hun fel un o'r "genhedlaeth goll" na chafodd gyfle i ddysgu Cymraeg, ac yn teimlo bod rhywbeth ar goll o'i fywyd oherwydd hynny.
Ar ôl gadael Cymru i fynd i'r brifysgol, bu'n byw yn Lloegr am flynyddoedd, ond roedd wastad yn awyddus i symud yn ôl i Gymru a dysgu Cymraeg.
Gyda'i ŵr, Anthony, yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin, dychwelodd y ddau yno gan brynu tyddyn bach yn ardal Caerfyrddin.
'Llysgenhadon gwych dros y Gymraeg'
Yn 2018, penderfynodd David ac Anthony sefydlu distyllfa ar eu fferm, ac erbyn hyn, mae brand Jin Talog yn hynod boblogaidd. Dywedodd fod dysgu Cymraeg wedi newid ei fywyd ac mae'n ei defnyddio bob dydd, gyda'r iaith yn rhan ganolog o bopeth yn y busnes.
Wrth siarad ar ran y beirniaid, dywedodd Hannah Thomas: "Mae Rob, Gosia, David a Jo yn gymeriadau carismatig, sy'n angerddol dros y Gymraeg ac yn barod yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i'n hiaith a'n diwylliant - diolch yn enfawr iddynt am eu brwdfrydedd a'u gwaith caled.
"'Dyn ni'n ffyddiog y bydd y pedwar yn chwarae rôl flaenllaw yn eu cymunedau a thu hwnt, yn llysgenhadon gwych dros y Gymraeg.
"Credwn y bydd llawer yn uniaethu â phrofiad David. Mae dysgu'r Gymraeg wedi bod yn brofiad cwbl gadarnhaol iddo, ac mae bellach yn siarad yr iaith yn naturiol ac yn ei defnyddio ym mhob agwedd ar ei fywyd yn Sir Gâr.
"Mae David yn angerddol am y cyfleoedd mae'r Gymraeg yn ei rhoi i chi a gallu'r Gymraeg, fel sgil ymarferol, i drawsnewid bywydau. Wrth ddysgu'r iaith, mae David wedi ymchwilio i'w achau a darganfod bod ei gyndeidiau yn siarad Cymraeg - mae'n teimlo, felly, ei fod wedi adennill ei etifeddiaeth.
"Mae'r Gymraeg o'n cwmpas ym mhob man, ac yn ôl David, does dim cyfrinach i'w dysgu - gydag ymdrech ac amser, mae'n bosibl i bawb. Mae'n berson cynnes, ffraeth a bydd yn llysgennad ardderchog."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Awst 2021
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2021