'Safon cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn eithriadol'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Dysgwr y Flwyddyn 2021Ffynhonnell y llun, Lluniau cyfranwyr
Disgrifiad o’r llun,

Bydd enillydd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn cael ei gyhoeddi brynhawn dydd Mercher

Bydd enw enillydd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach, a hynny mewn blwyddyn gyda safon "uchel dros ben".

Roedd "bron i 30 o ddysgwyr brwdfrydig yn cymryd rhan," medd Shirley Williams, is-gadeirydd Panel Dysgu Cymraeg yr Eisteddfod Genedlaethol.

"Cawsom gyfle i fwynhau sgwrs gyda phob un ohonynt, gyda phedwar, yn y pen draw, yn cyrraedd y rownd derfynol. Mae'r pedwar yn gwbl eithriadol," meddai.

Brynhawn Mercher bydd enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi yn Eisteddfod AmGen 2021.

Dywed yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol eu bod wedi derbyn 28 o geisiadau a bod unigolion o Gymru a thu hwnt wedi'u henwebu.

Y pedwar sydd yn y rownd derfynol

Jo Heyde

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd Jo Heyde y Gymraeg am y tro cyntaf bedair blynedd yn ôl ond mae hi bellach wedi dysgu cynganeddu

Dim ond pedair blynedd yn ôl y clywodd Jo Heyde o Lundain y Gymraeg am y tro cyntaf.

Ymwelodd â Chymru a phenderfynu dysgu'r iaith yn Hydref 2018, gan ddechrau gwrando ar y radio a darllen llyfrau Cymraeg.

Ar wahân i ddau gwrs undydd, 'dyw Jo, sy'n gerddor llwyddiannus, ddim wedi bod mewn unrhyw ddosbarthiadau Cymraeg.

Erbyn hyn, mae'n rhan flaenllaw o fywyd Cymraeg Llundain. Mae hi'n weithgar gyda Merched y Wawr ac yn aelod brwd o'r Clwb Darllen a'r Cylch Siarad yng Nghanolfan Cymry Llundain.

Mae hi hefyd wedi dysgu cynganeddu ac wedi cyfansoddi nifer o gerddi caeth.

Yn ôl datganiad y trefnwyr mae ei "hymrwymiad at y Gymraeg yn ysgytwol a'i brwdfrydedd dros yr iaith yn ysbrydoliaeth i bawb o'i chwmpas".

Rob Lisle

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dysgodd Rob Lisle Gymraeg er mwyn cefnogi ei blant

Yn wreiddiol o Abertawe, fe fagwyd y pensaer Rob Lisle ar aelwyd ddi-Gymraeg ac fe gafodd ei addysgu yn Saesneg cyn symud i Lundain.

Ar ôl symud i ardal Caerfyrddin, penderfynodd, gyda'i wraig, Siân anfon eu plant i ysgol Gymraeg.

Dysgodd yr iaith er mwyn cefnogi'i blant, gan ymuno â chwrs Cymraeg a dod yn rhan o nifer o grwpiau lleol.

Bum mlynedd yn ddiweddarach, mae'n manteisio ar bob cyfle i ddefnyddio'r iaith gyda phawb yn ddyddiol. Mae'r enwebiad yn nodi bod ganddo "ddiddordeb mawr yn yr iaith, ei hanes ac yn niwylliant Cymru".

Mae hefyd yn "weithgar iawn yn ei gymuned ac yn cynnig cyngor ar bensaernïaeth yn y Gymraeg".

"Mae ymroddiad Rob yn ysbrydoliaeth i'w diwtoriaid ac i ddysgwyr eraill."

Gosia Rutecka

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gosia Rutecka'n astudio am radd PhD yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe

Yn wreiddiol o Wlad Pwyl mae Gosia Rutecka yn byw yng Nghwm Rhondda ac yn fam i bump o blant.

Ar ôl dechrau dysgu Cymraeg, fe newidiodd cyfrwng addysg ei dau blentyn ieuengaf trwy eu symud o ysgol Saesneg i ysgol Gymraeg.

Nodir bod Gosia "heb adael i'r cyfnod clo roi stop ar ei brwdfrydedd a'i hymroddiad i'r Gymraeg".

Mae hi wedi parhau i fynychu dosbarthiadau a ffurfio grwpiau cefnogi i ddysgwyr eraill, gan drefnu siaradwyr i ddod atyn nhw i drafod hanes, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru.

Mae hi bellach "yn rhan flaenllaw o'r gymuned Gymraeg yn ei hardal", ac ar hyn o bryd mae'n astudio am radd PhD yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe "gan ysbrydoli pawb o'i chwmpas gyda'i brwdfrydedd dros y Gymraeg".

David Thomas

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Gymraeg yn ganolog i fusnes David Thomas a'i ŵr

Mae David Thomas, sy'n hanu o Gaerdydd, yn disgrifio'i hun fel un o'r "genhedlaeth goll" na chafodd gyfle i ddysgu Cymraeg. O'r herwydd roedd yn teimlo bod rhywbeth ar goll o'i fywyd.

Gadawodd Cymru i fynd i'r brifysgol gan fyw yn Lloegr am flynyddoedd, ond roedd wastad yn awyddus i symud yn ôl i Gymru a dysgu Cymraeg.

Gyda'i ŵr, Anthony, yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin, dychwelodd y ddau gan brynu tyddyn bach yn ardal Caerfyrddin.

Yn 2018, fe sefydlodd y ddau ddistyllfa ar eu fferm, ac erbyn hyn, mae brand Jin Talog yn hynod boblogaidd.

Dywed David fod dysgu Cymraeg wedi newid ei fywyd ac mae'n ei defnyddio bob dydd gyda'r iaith yn rhan ganolog o bopeth yn y busnes.

Mae'r gystadleuaeth yn cael ei threfnu ar y cyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.