'Mae fy rhieni wedi eu sugno i fyd o gelwydd Covid-19'
- Cyhoeddwyd
Mae angen cau gwefannau sy'n rhannu gwybodaeth anghywir a newyddion ffug am y pandemig, yn ôl dynes sy'n dweud i'w rhieni gael eu sugno i fyd o gelwydd ynglŷn â'r coronafeirws.
I ddechrau, fel llawer o bobl, doedd rhieni'r fenyw ddim yn credu bod Covid-19 yn waeth na'r ffliw, ond yn fuan newidiodd hynny i theorïau mwy eithafol.
Mae'r ddynes o Gaerdydd wedi siarad â Newyddion S4C yn anhysbys.
"Maen nhw wedi ffeindio cymuned enfawr o bobl ar Trydar a phob math o wefannau gwahanol, sydd wedi rhoi cymaint o conspiracy theories iddyn nhw.... ynglŷn â pham bod Covid yn bodoli... bod e naill ai i reoli poblogaeth neu bod e'n beth hollol ffug," meddai.
"Un o'r conspiracy theories ydy bod y mygydau glas disposable mae pobl yn gwisgo yn cynnwys asbestos.
"Mae ganddyn nhw theories o bob un agwedd o'r pethau sydd wedi bod yn mynd mlaen dros y flwyddyn ddiwetha'. Ond doedd hwn jyst byth yn rhan o bywyd nhw o'r blaen."
Ac er iddi geisio gwneud popeth o fewn ei gallu i ddarbwyllo ei rhieni, maen dweud eu bod yn dal i gredu theorïau anwir ynghylch y brechlyn.
"Oedd e'n sioc achos o'dd e mor annisgwyl. Oedden nhw'n ymwybodol bod ni ddim yn rhannu'r un feddylfryd felly 'nathon nhw drio cuddio rhagddom ni hefyd nes bod e'n mynd yn rhy bell.
"Roedden nhw wedi perswadio eu hunain mai nhw o'dd yn gwybod y gwir a ni odd yn brainwashed.
"Ei fersiwn nhw o realaeth nawr ydy bod pawb sy'n cael y brechlyn yn mynd i farw yn yr hydref neu os dydyn ni ddim yn marw... ar y gorau, rydyn ni gyd yn mynd i gael auto-immune diseases...
"Yn amlwg fel rhieni dydyn nhw ddim isie hwnna i fod yn wir ond dyna beth maen nhw'n credu."
Mae'r fenyw'n dweud nad yw ei rhieni yn deall pa mor "gyfrwys" gall rhai ar y we fod wrth rannu celwyddau. Mae'n credu nawr bod angen gwneud mwy i gau'r gwefannau newyddion ffug a phwysleisio'r ffeithiau mewn cyfnod mor ansicr.
Mae gweld y math yma o gredoau yn erbyn y brechlyn yn codi pryderon meddygon sydd wedi bod yn trin cleifion Covid, fel Dr Eilir Hughes, meddyg teulu o Nefyn.
"Mae o yn broblem fawr oherwydd pan da'n ni'n dod ar draws y bobl hyn er mwyn ceisio cynnig y brechlyn iddyn nhw, a cheisio rhoi'r ochr arall, yr ochr da ni'n gwybod sef y gwir bod y brechlynnau yma yn medru bod yn ddefnyddiol iawn i atal haint difrifol ac atal marwolaethau a'r angen am ofal ysbyty.... dydyn nhw ddim eisiau clywed.
"Yn aml iawn maen nhw'n medru mynd yn eithaf afresymol yn eu hymateb. Mae cam-wybodaeth yn mynd yn feiral yn ei hun.
"Mae'r wybodaeth yn dod iddyn nhw o wledydd eraill yn aml iawn, o blatfformau proffesiynol."
Ac yn ôl y newyddiadurwraig o Gymru, Maxine Hughes, sy'n byw yn yr Unol Daleithiau, mae rhai wedi manteisio ar y pandemig i ledaenu celwyddau.
"Mae'r mudiad anti-vax wedi gweld cyfle dros y flwyddyn ddiwethaf i allu tyfu eu cynulleidfa. Mae 'na elfen ariannol iddyn nhw," meddai.
"Mae rhai ohonyn nhw yn cael pres gan bobl sy'n eu dilyn nhw.
"Hefyd wrth gwrs, pan mae pobl yn teimlo mor ansicr, pan mae pobl isio atebion, pan dydy pobl ddim yn trystio y pethau maen nhw'n clywed ar y teledu, maen nhw'n chwilio am atebion yn y llefydd eraill yma."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd4 Awst 2021