Gwasanaeth bysiau hyblyg i Ben Llŷn
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun hyblyg lle mae teithwyr bws yn gallu dweud pryd a lle y maent am gael eu codi, yn cael ei dreialu ym Mhen Llŷn.
Mae bysiau fflecsi yn fwy hyblyg na'r gwasanaeth arferol, sy'n gaeth i amserlen a llwybrau penodol.
Gyda fflecsi, gall teithwyr fwcio siwrnai ar app gyda cyn lleied ag awr o rybudd.
Mae'r cynllun yn bartneriaeth rhwng Trafnidiaeth Cymru, cynghorau sir, a chwmnïau bysiau lleol, ac yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
'Hawdd i'w ddefnyddio'
Mae Gwenno Rice yn gweithio fel swyddog datblygu cymunedol i Dafarn Yr Heliwr - menter gydweithredol a agorodd yn Nefyn yn ddiweddar.
"Rhan o fy ngwaith ydy cysylltu gyda mentrau eraill i'w helpu mewn unrhyw ffordd, a thrwy hyn dwi wedi cael fy nghomisiynu i hybu'r app a'r gwasanaeth," meddai.
Mae'n bosib bwcio siwrnai dros y ffôn ond pwysleisiodd mai'r app oedd y ffordd orau.
"Mae o'n hawdd iawn i'w ddefnyddio ac mae 'na lot o bobl fasa'n elwa o'i ddefnyddio, ond mi fasa'n bechod tasan nhw ddim yn gwneud hynny am nad ydynt yn gyfforddus efo technoleg, felly rydym yn trefnu gweithdai yn y dafarn i helpu pobl."
Hwyluso teithio
Pe byddai rhywun isio teithio o Aberdaron i Nefyn ar y gwasanaeth bysiau arferol, byddai'n gorfod dal bws i Bwllheli yn gyntaf cyn dal bws arall i Nefyn, ond byddai'n gallu teithio'n syth o Aberdaron i Nefyn efo bysus fflecsi.
"Mae 'na wasanaeth bysus cyhoeddus ond dydyn nhw ddim yn gyson nac yn aml, ac maen nhw wedi lleihau ers Covid, felly mae cynllun fflecsi yn mynd i wneud pethau'n haws i bobl, ac mae'n fwy cynhwysol - mae pawb yn gallu mynd i ble maen nhw isio efo fo mewn ffordd," ychwanegodd Gwenno Rice.
Mae'r bysiau'n stopio mewn mannau aros rhithwir, a bydd teithwyr yn gallu bwcio siwrnai ar lonydd cefn sydd ddim ar y llwybrau bysiau arferol.
Roedd Gwenno wedi cael cyfle i weld pa mor effeithiol a rhwydd oedd yr app yn ddiweddar, meddai.
"Mi gollais i'r bws dwi'n arfer ei ddal o Bwllheli i Nefyn ar gyfer gwaith, ond mi es i ar yr app a bwcio, ac roeddwn i yma erbyn 09.30."
Ardaloedd eraill
Cafodd y cynllun fflecsi ei lansio yng Nghasnewydd yn 2020, ac erbyn hyn mae ar gael ym Mlaenau Gwent, gogledd Caerdydd, Dyffryn Conwy, Dinbych, Prestatyn, Treffynnon, Sir Benfro, Y Rhondda, a Phen Llŷn.
Dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru bod y syniad wedi cael derbyniad da ym mhobman.
"Gyda dros 58,000 o siwrneiau ar fflecsi ers iddo gael ei gyflwyno, rydym yn darparu 1800 o deithiau ar gyfartaledd bob wythnos, mewn 13 o gerbydau," meddai.
Roedd pob cynllun peilot yn gweithredu mewn ffyrdd gwahanol i'w gilydd, gyda rhai yn "disodli gwasanaethau sefydlog, eraill yn cefnogi gwasanaethau presennol, rhai'n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr, eraill gan gwmnïau bysiau cenedlaethol, rhai gyda bysiau newydd sbon ac eraill yn defnyddio'r fflyd bresennol".
"Rydym yn pwyso a mesur perfformiad pob un o'r cynlluniau peilot, a bydd hynny'n llywio unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol.
"Y peilot nesaf fydd ehangu'r cynllun yng Nghasnewydd i gynnwys y ddinas gyfan.
"Byddwn yn dilyn hyn gyda chynllun fflecsi Bwcabws, a fydd yn gweithredu mewn rhannau o Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.
"Mae tîm fflecsi Trafnidiaeth Cymru hefyd mewn trafodaethau gyda nifer o awdurdodau lleol a chwmnïau bysiau i adnabod ardaloedd addas eraill ar gyfer cynlluniau peilot fflecsi."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2019