Cytundeb Awstralia: 'Dim sicrwydd o fygythiad hir dymor'
- Cyhoeddwyd
Does "dim sicrwydd" y bydd cytundeb masnach rhwng Prydain ac Awstralia yn effeithio ar ffermwyr Cymru yn y tymor hir, yn ôl grŵp o aelodau seneddol.
Gyda bwriad i ganiatáu mewnforion cig heb doll o Awstralia, mae rhai yn credu y gallai'r cytundeb fod yn fygythiad i'r diwydiant yma.
Ond yn ôl adroddiad gan Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan, dydy hynny ddim yn debygol yn y tymor byr
Dywedodd Llywodraeth y DU bod ffermio "wrth galon" eu polisi masnach, ac na fyddai'r cytundeb yn "tanseilio safonau bwyd na lles anifeiliaid".
Beth ydy'r cytundeb?
O dan y cytundeb sy'n cael ei lunio rhwng Prydain ac Awstralia ar hyn o bryd, mi fyddai Awstralia yn medru anfon 35,000 o dunelli o gig eidion i Brydain heb i dreth gael ei godi arno yn y flwyddyn gyntaf.
Mi fyddai'r cyfanswm yn codi'n raddol i 110,000 tunnell ar ôl 10 mlynedd.
Mi fyddai'r ffigyrau ychydig yn llai o ran cig oen.
Ar ôl 15 mlynedd, fyddai dim treth o gwbl ar fewnforion amaethyddol o Awstralia.
'Cystadleuaeth annheg'
Ers cyhoeddi egwyddorion y cytundeb mae nifer yn y diwydiant wedi mynegi pryderon.
Mae ffermwyr yn Awstralia yn gweithio i reolau gwahanol ac ar raddfa lawer mwy.
Ofn ffermwyr fel Gareth Wyn Jones yn Llanfairfechan ydy y byddai'r cynnyrch o Awstralia yn rhatach ac y byddai'n gystadleuaeth annheg.
"Dwi dipyn bach yn siomedig fod nhw'n agor y drysau i fwyd o wlad arall i mewn," meddai.
"Os 'di o'n dod i fewn o wlad arall yn rhatach, mae 'na bobl yn mynd i'w brynu o."
'Annhebygol yn y tymor byr'
Ond yn ôl Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan, does dim angen poeni.
Yn eu hadroddiad, dolen allanol fis yma, mae nhw'n dweud: "Rydym yn ymwybodol o'r pryderon sydd gan ffermwyr ynglŷn â bygythiad cystadleuaeth wrth ddiddymu tollau ar gig eidion ac oen o Awstralia.
"Ond mae hyn yn annhebygol yn y tymor byr ac nid yw'n sicr y bydd Prydain yn gweld llawer o gig o Awstralia yn y tymor hir."
Ar hyn o bryd, mae gan Awstralia farchnadoedd cryf fel Tsieina yn agosach yn ddaearyddol, yn ôl y pwyllgor.
Maen nhw er hynny'n nodi y dylai Llywodraeth Prydain egluro o dan ba amodau y bydden nhw'n cyflwyno mesurau i ddiogelu diwydiant, pe bai angen, 10-15 mlynedd ar ôl i'r cytundeb masnach ddod i rym.
Petai trafferthion gyda marchnadoedd eraill Awstralia ymhen blynyddoedd, byddai'r farchnad ym Mhrydain yn gyfle da iddyn nhw.
Mae llawer yn credu y byddai'r cytundeb gydag Awstralia yn sail i gytundebau masnach eraill y mae Llywodraeth y DU yn gobeithio eu llunio yn y dyfodol.
Mae Dr Nick Fenwick o Undeb Amaethwyr Cymru'n cytuno nad oes bygythiad mawr yn y tymor byr o du Awstralia, ond yn dweud bod pryderon ynglŷn â'r hir dymor "yn sicr".
"Ar hyn o bryd mae gennym ni ryw fath o yswiriant sydd yn amddiffyn ni rhag bygythiad i'r fferm deuluol er enghraifft, a'r farchnad cig eidion yn enwedig," meddai.
"Ond yn y dyfodol, os yw'r cytundeb yma'n dod i rym, fydd 'na ddim yswiriant o gwbl. Felly os mae pethau'n mynd o chwith, fydd 'na ddim byd fedrwn ni wneud i stopio fo."
'Manteisio ar y cyfleoedd'
Mewn datganiad, mae Llywodraeth y DU yn dweud bod ffermio "wrth galon" eu polisi masnach.
"Byddwn yn parhau i weithio gyda'r diwydiant i sicrhau bod ffermwyr Cymru'n manteisio ar y cyfleoedd ddaw o'r cytundebau masnach newydd rydym yn eu llunio.
"Ar ôl 15 mlynedd bydd gan gynnyrch fferm o Awstralia yr un mynediad i Brydain a chynnyrch o'r Undeb Ewropeaidd.
"Ni fyddwn yn tanseilio safonau bwyd na lles anifeiliaid ac ni fyddwn yn derbyn cig eidion wedi ei drin â hormonau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mai 2021
- Cyhoeddwyd20 Mai 2021
- Cyhoeddwyd18 Mai 2021