Cytundeb Awstralia: Cyfle i rai, bygythiad i eraill

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
AwstraliaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi dweud bod yr amodau yn Awstralia yn rhoi mantais i ffermwyr y wlad

Pleidleisiodd nifer o ffermwyr Cymru dros Brexit er mwyn cael mynediad "i farchnadoedd newydd" fel Awstralia, yn ôl AS Ceidwadol.

Dywedodd Craig Williams, AS Maldwyn, fod undebau ffermio yn poeni ond bod "cyffro" hefyd ynglŷn â chyfleoedd masnachu newydd.

Mae llywodraeth y DU wedi cynnig telerau cytundeb masnach i Awstralia lle byddai'r ddwy wlad yn diddymu trethi ar fewnforion yn raddol dros 15 mlynedd.

Cododd ASau Llafur a Phlaid Cymru bryderon y gallai cynhyrchwyr cig oen ac eidion o Gymru gael eu tandorri gan gynhyrchwyr o Awstralia.

Cytundeb masnach rydd ag Awstralia fyddai'r cytundeb annibynnol cyntaf y mae'r DU wedi'i lofnodi ar ôl Brexit, gan mai cytundebau wedi eu trosglwyddo drosodd o'r rhai oedd gan y DU eisoes fel rhan o'r Undeb Ewropeaidd yw'r cytundebau sydd wedi eu llofnodi hyd yma.

Yn ôl adroddiadau, roedd cabinet llywodraeth y DU wedi eu hollti ar ba delerau i'w cynnig o ystyried yr effaith bosibl ar ffermwyr o gael gwared ar drethi mewnforio.

Y disgwyl yw y bydd y fargen yn cael ei tharo dros yr wythnosau nesaf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna bryderon, ond cyffro hefyd, ymhlith ffermwyr, yn ôl AS Ceidwadol Maldwyn, Craig Williams

Wrth siarad ar raglen BBC Politics Wales, dywedodd Craig Williams: "Mae'r undebau ffermio yn bryderus ond nid yw'r manylion yn wir allan yna eto.

"Gydag unrhyw newid, unrhyw fargen newydd, yr hyn sydd ei angen arnom yw trosglwyddo i'r amgylchedd newydd hwnnw.

"Ond mae yna gyffro hefyd mai hwn yw'r cytundeb masnach rhydd cyntaf rydyn ni'n ei arwyddo ar ôl Brexit.

"Dyma beth y pleidleisiodd llawer o bobl drosto, dyma beth y pleidleisiodd llawer o ffermwyr drosto, i fynd i mewn i farchnadoedd newydd."

Ychwanegodd y byddai bargen ag Awstralia hefyd yn "borth" pwysig tuag at ymuno â chytundeb masnach rydd ehangach - y 'Comprehensive and Progressive Agreement for Trans-Pacific Partnership'.

Gwrthododd Mr Williams y syniad y byddai'r cytundeb gyda Awstralia yn gosod cynsail, gan ddweud bod "pob trafodaeth cytundeb masnach rydd yn wahanol".

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r fargen yn "anhygoel o wael, medd yr AS Llafur Anna McMorrin

Dywedodd AS Llafur dros Ogledd Caerdydd, Anna McMorrin: "Mae hon yn fargen anhygoel o wael fel y mae, ac mae'r rhagrith yn syfrdanol.

"Mae llywodraeth y Torïaid yn dweud bod nhw am gefnogi ein ffermwyr ond mae hon yn fargen wael iawn, mae hyn yn tan-dorri ein ffermwyr, a fydd yn achosi dirywiad ymhlith ein diwydiant gwledig ond hefyd ar gyfer ein dinasoedd a'n cyflenwadau bwyd.

"Mae hyn yn effeithio ar ein ffermwyr sydd wedi gofalu amdanom ni y llynedd yn ystod y pandemig pan roedd angen bwyd ar ein byrddau, a dyma sut mae'r llywodraeth Dorïaidd yn eu had-dalu."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Liz Saville-Roberts yn rhagweld mwy o fanteision i Awstralia na'r DU o ran cyfleoedd allforio

Dywedodd Arweinydd Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville-Roberts AS: "Pan fydd y Torïaid yn dweud wrthym y byddwn yn cael yr holl gyfleoedd allforio newydd hyn i Awstralia, yr hyn a ragwelir mewn gwirionedd yw y byddwn ni, y DU, yn gweld cynnydd o 7.3% yn ein hallforion i Awstralia.

"Disgwylir i allforion Awstralia i'r DU gynyddu 83.2%."

Tynnodd sylw hefyd at faterion yn ymwneud â safonau lles anifeiliaid yn Awstralia, o gymharu â Chymru. "Mae'r RSPCA yn poeni am nifer o'r rhain," ychwanegodd Ms Saville-Roberts.

Pynciau cysylltiedig