Seiclwr o Abertawe yn 'un i'w gwylio' yn y dyfodol

  • Cyhoeddwyd
Eluned KingFfynhonnell y llun, Twitter @VeloUK
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Eluned King bod y cyfnod clo wedi bod o gymorth iddi

Mae beiciwr proffesiynol o Abertawe wedi ei henwi fel "un i'w gwylio" yn y byd seiclo.

Mae sgiliau Eluned King, 19, wedi'u cydnabod yng nghylchgrawn seiclo The British Continental ac mae'n cael ei hystyried ymhlith y goreuon o dan 23 oed yn y Deyrnas Unedig.

"Mae'r holl bwysau fi'n cael, mae'n dod o fi fy hunan," meddai Eluned.

"I fod yn un i'w gwylio o fewn Prydain, ma' hwnna yn massive, achos ma' Prydain yn massive yn y byd seiclo."

Mae Eluned yn hyfforddi ym Manceinion ac yn rhan o uwch academi seiclo Prydain. Ei gobaith yw cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad flwyddyn nesaf yn Birmingham.

'Pwysau ar fy hunan i berfformio'

Dechreuodd Eluned ei gyrfa seiclo gyda chlwb seiclo Towy Riders yng Nghaerfyrddin pan yn blentyn ifanc. Treuliodd ei phlentyndod yn hyfforddi gyda'i brodyr a'i chwaer yn yr ardal a gydag amser fe ddenodd ei thalent naturiol sylw hyfforddwyr.

Yn ôl Eluned, mae harddwch yr ardal a defnydd o'r iaith Gymraeg yn y clwb wedi ei hysbrydoli hi i hyfforddi ar hyd y blynyddoedd.

Ddiwedd Mehefin eleni fe enillodd Eluned y Grand Prix yn Otley yn Sir Gorllewin Efrog, fel rhan o dîm Breeze.

"Fi'n rhoi lot o bwysau ar fy hunan i berfformio," meddai Eluned.

"Mae'n galed gyda'r holl ansicrwydd sydd yn y byd ar y foment."

Eluned KingFfynhonnell y llun, Eluned King
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Eluned ei gyrfa seiclo gyda chlwb seiclo Towy Riders yng Nghaerfyrddin

Ar ôl cwblhau ei chyrsiau safon uwch yn Ysgol Gyfun Gŵyr, fe gafodd Eluned wahoddiad i symud i fyw a hyfforddi ym Manceinion. Doedd y penderfyniad ddim yn un hawdd, meddai, ond wedi ei llwyddiant yn ddiweddar mae hi'n fwy hyderus.

"Allen i 'di jest mynd 'o, wel, 'nai fynd i'r brifysgol. 'Nai ddilyn y llwybr arferol'," meddai.

"Mae'n bizarre achos dwi'n siarad â ffrindiau ac maen nhw nawr yn y brifysgol neu dal yn y chweched. Ma' 'da fi basically swydd llawn amser a mwy."

Er gwaethaf heriau amlwg y pandemig i Eluned a'i thîm, mae'r cyfnod wedi cynnig cyfleoedd unigryw iddi o safbwynt hyfforddi.

"I fi roedd e [y pandemig] yn bositif. Fi'n teimlo bach yn euog am ddweud 'na achos obviously roedd y cyfnod clo yn galed i bawb am resymau rili gwahanol," meddai.

"Nath e roi cyfle i fi 'neud be' o'n i moyn 'neud heb unrhyw bwysau o rasio neu'r ysgol. Fi'n meddwl oedd e wedi gweithio yn dda i fi achos roedd e fel steppingstone i be' fi'n 'neud nawr."

elinor barker
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Eluned King bod gweld merched, fel Elinor Barker, yn cystadlu ar lefel uchel yn beth da

I Eluned, mae'r cyfle i seiclo yn broffesiynol yn freuddwyd.

"Dyw e ddim eich typical swydd 9-5 ond fi'n ennill arian a fi'n rili joio fe. Mae e yn freuddwyd fel swydd."

Yr hyn sydd yn bwysig iddi yw cydraddoldeb, a sicrhau bod gan ferched gyfleoedd yn y dyfodol.

"Pan o'n i yn tyfu lan roedd pawb o'n i yn edrych lan i ddynion - o'dd y bobl o'n i yn gwylio yn rasio yn ddynion," meddai.

"Ma' na newid mor gloi. Mae 'na fwy o fenywod ar y lefel uchaf. Ma' ffordd bell i fynd ond mae hi wedi newid mor gloi yn y pum mlynedd ddiwethaf."

Gyda Chymru yn dathlu llwyddiant mawr yn y Gemau Olympaidd yn Tokyo eleni, mae Eluned yn gobeithio y bydd ei henw hi yn cael sylw yn y dyfodol.

"Fel Cymraes ma' Gemau'r Gymanwlad flwyddyn nesaf yn darged mawr."

Pynciau cysylltiedig