Rheol mygydau ar drenau yn cael ei 'anwybyddu'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
pobl ar drenFfynhonnell y llun, Lauren Elizabeth

Mae teithwyr wedi cwyno am eu bod yn gorfod teithio gyda phobl sy'n gwrthod gwisgo mygydau ar drenau.

Yng Nghymru, mae mygydau yn orfodol yn gyfreithiol ar drafnidiaeth gyhoeddus, tra bod Lloegr ond yn cynghori pobl i'w gwisgo nhw.

Mae teithwyr wedi dweud eu bod yn teimlo'n anniogel pan mae pobl yn anwybyddu'r rheolau.

Dywed Trafnidiaeth Cymru (TC) eu bod yn annog teithwyr i wisgo mygydau ar bob gwasanaeth.

'Anwybyddu ar bwrpas'

Ers dechrau'r pandemig, mae 8,800 o bobl wedi cael eu gwrthod rhag mynd ar drên TC oherwydd nad oeddent yn gwisgo mwgwd - gyda 2,047 o'r rhain yn cael eu cofnodi ers dechrau eleni.

Mae gwyddonwyr wedi dweud bod y risg o ddal Covid-19 yn dibynnu ar ba mor llawn yw'r trên a'r pellter sydd rhwng pobl.

Dros yr wythnosau diwethaf mae sawl teithiwr wedi postio lluniau ar Twitter o drenau gorlawn, gyda nifer o bobl ddim yn gwisgo mwgwd.

Dywedodd Maria Palmizi ei bod yn anghyfforddus wrth rannu cerbyd gyda phobl nad oedd yn gwisgo mygydau.

Roedd yr athrawes yn teithio ar drên gyda'i phlentyn am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig pan wnaeth grŵp o fechgyn ddod ymlaen heb fygydau.

"Nes i symud i gerbyd gwahanol, ond yn anffodus roedd dros 12 person ar ein cerbyd heb fygydau," meddai.

Dywedodd fod y bobl hynny'n anwybyddu'r cyhoeddiadau a'r staff oedd yn gofyn iddyn nhw wisgo mygydau, a doedd dim gwarchodaeth ychwanegol ar waith.

Yn ôl Maria, ni chafodd ei "pharchu" wrth gwyno i TC, ac fe atebon nhw fod Heddlu Trafnidiaeth Prydain (BTP) yn trefnu patrolau.

"O'n i jyst wedi fy synnu bod pobl yn anwybyddu'r rheolau ar bwrpas ac, yn fy marn i, doedd dim yn cael ei wneud i orfodi'r gyfraith," meddai.

'Yn gaeth ar y trên'

Doedd Lauren Elizabeth "ddim yn disgwyl sefyll wyneb i wyneb gyda dieithryn" am dros dair awr wrth deithio o Gasnewydd i Fanceinion.

Dywedodd ei bod yn teimlo'n "anniogel" wrth deithio ar y 23 Gorffennaf pan oedd rheolau ymbellhau cymdeithasol yn dal mewn grym yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Lauren Elizabeth
Disgrifiad o’r llun,

Rhannodd Lauren fideo o'i thaith ar gyfryngau cymdeithasol.

"Roedd o'n brofiad erchyll... o'n i methu symud, roeddech chi'n teimlo'n gaeth ar y trên," meddai.

Dywedodd er bod y mwyafrif o bobl yn gwisgo mygydau, doedd dim gorfodaeth o'r rheolau.

Ar ôl cwyno i TC, a wnaeth ymddiheuro am ei phrofiad, dywedodd Lauren ei bod yn ymddangos fel "nad oeddent yn becso".

'Teimlo'n bryderus'

Mae Callum Littlemore yn teithio'n aml rhwng Caerdydd a Llundain ac yn dweud bod lleihad dramatig wedi bod yn y nifer o bobl sy'n gwisgo mygydau wrth deithio rhwng y ddwy ddinas.

Dywedodd bod ond tua hanner yn gwisgo mwgwd pan adawodd Paddington ar 23 Gorffennaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rheolau mygydau yn llymach yng Nghymru i gymharu a Lloegr

Serch cyhoeddiad yn atgoffa pobl i wisgo mygydau wrth groesi'r ffin, dywedodd Callum fod braidd neb wedi talu sylw, a ni chafodd unrhyw un eu herio am dorri'r rheolau.

"Ar y pryd o'n i'n teimlo'n eitha pryderus," meddai, gan ddweud ei fod yn parhau i wisgo mwgwd yn Lloegr er iddo gael ei frechu.

"Mae gwisgo mwgwd yn aberth bach i gadw pobl yn saff...dwi'n grac dydy pobl eraill ddim yn meddwl am hynny."

'Pobl wedi blino'

Er fod rheolau ymbellhau cymdeithasol wedi'u dileu yng Nghymru, mae pobl yn dal yn cael eu hannog i gadw eu pellter.

Mae gan ddarparwyr trafnidiaeth yr hawl i ddefnyddio "mesurau rhesymol" i gadw pobl yn ddiogel.

Ffynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae TC a Great Western Rail yn dweud eu bod yn atgoffa teithwyr i wisgo mygydau.

Dywedodd Dr Simon Williams bod trenau gorlawn yn rhwystro pobl rhag ceisio dilyn y rheolau, ac mae'n amlwg bydd rhai yn teimlo'n bryderus.

"Mae rhaid i nifer o bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, er enghraifft i fynd i'r gwaith, ac maen nhw eisiau bod yn ddiogel wrth deithio," medd y darlithydd o Brifysgol Abertawe.

Ond dywedodd bod nifer yn dioddef "blinder" o'r rheolau ac yn anwybyddu'r rheolau, yn enwedig y gwahaniaethau rhwng gwledydd y DU.

'Cyfyngu teithwyr yn anodd'

Mae TC yn dweud bod rhwng 88.3% a 93.3% dal yn dilyn rheolau mygydau ond gyda nifer o orsafoedd heb staff, mae'n anodd gorfodi'r cyfyngiadau.

Dywedodd llefarydd eu bod yn gweithio gyda'r BTP i orfodi'r rheolau a chynnal mesurau diogelwch.

"Rydym hefyd yn parhau i ofyn i deithwyr wisgo mygydau ar deithiau sy'n mynd trwy Loegr," ychwanegodd.

Dywedodd cwmni Great Western Rail eu bod yn disgwyl i deithwyr wisgo mygydau wrth ddilyn "canllawiau'r llywodraeth".

Mae'r BTP yn dweud bod swyddogion yn parhau i gydweithio gyda theithwyr ac mai gorfodaeth yw'r "opsiwn olaf".