Llacio cyfyngiadau wrth i Gymru symud i lefel sero
- Cyhoeddwyd
Mae'r rhan fwyaf o gyfyngiadau Covid yng Nghymru wedi dod i ben wrth i Gymru symud i lefel rhybudd sero.
Bellach does dim cyfyngiadau ar gwrdd y tu mewn ac mae ymbellhau cymdeithasol, a oedd wedi bod mewn grym ers 17 mis, wedi dod i ben.
Ond fe fydd yn rhaid parhau i wisgo gorchuddion wyneb y tu mewn i'r rhan fwyaf o lefydd cyhoeddus - gan gynnwys ar drafnidiaeth gyhoeddus - ond fydd dim rhaid gwisgo mwgwd mewn tafarnau, bwytai nac ysgolion.
Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi rhybuddio nad yw'r cyfnod newydd hwn yn "ddiwedd ar y cyfyngiadau" a dywed "nad oes rhyddid i bawb wneud fel y mynnant".
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gadarnhau y penderfyniad nos Iau wrth i nifer yr achosion ostwng.
Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn hyderus bod Cymru "yng nghymal olaf" dod allan o'r pandemig.
Ond pe bai amrywiolyn newydd yn dod i'r amlwg, neu pe bai'r feirws yn datblygu mewn ffordd lle byddai brechu'n llai effeithiol, dywedodd y byddai'n rhaid "i ni wynebu canlyniadau hynny a gweithredu".
Yn Lloegr, cafodd y rhan fwyaf o'r rheolau eu llacio ar 19 Gorffennaf - fis wedi'r bwriad gwreiddiol ac yn Yr Alban mae disgwyl i weddill cyfyngiadau'r wlad ddod i ben ar Awst 9.
Beth sy'n newid ddydd Sadwrn?
Bydd yn rhaid parhau i wisgo mwgwd, fel yn Yr Alban, er nad yw llywodraeth y DU yn gorchymyn hynny yn Lloegr.
Mae tystiolaeth wyddonol yn cefnogi y defnydd o wisgo gorchuddion wyneb ac yn dweud ei fod yn "ddull effeithiol o leihau trosglwyddo'r haint", medd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan.
Mae Cymdeithas y Tafarndai a Chwrw Cymreig yn amcangyfrif y bydd dros 150 o dafarndai yn ailagor ddydd Sadwrn.
'Cymaint o edrych ymlaen'
Dywedodd Gwyndaf Jones o glwb nos Levels yng Nghaernarfon fod yna "gymaint o edrych ymlaen" i gael ailagor.
"Mae 'na gymaint o edrych ymlaen, dwi'n meddwl bod ni fel anifeiliaid gwyllt wedi cael ein cloi fyny am fisoedd felly fydd pawb mewn hwyliau anhygoel - mae gwerthiant y tocynnau 'di bod yn wych," meddai wrth siarad â BBC Cymru.
"Fel cwmni mae 'na ganllawiau diogelwch wedi cael eu rhoi mewn lle, felly o ran hynny, dwi'n hollol hyderus y bydd bob dim yn ddiogel.
"Mae'r drefn wedi newid rhyw 'chydig... Roedd pobl yn arfer dod i fyny at y DJ a gofyn am ganeuon ond dydy hynny ddim mor hawdd i'w wneud dyddia' yma felly bydd yn rhaid i bobl gael ffydd yn y DJ i ddewis caneuon ar eu cyfer nhw!"
Ond dywedodd Keith Harper, sydd â chwmni tacsi a stondin ffrwythau a llysiau ym marchnad dan do Caerffili, ei fod yn anodd gwybod eto beth fydd canlyniad symud i lefel rhybudd sero.
"Mae'n anodd gwybod fel mae pethau'n mynd i fod tan bo' ni'n gweld popeth yn agor.
"Fel gyrrwr tacsi - yn sicr bydd mwy o waith wrth i fwy o lefydd a chlybiau agor.
"Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn - ac rwyf wedi gorfod agor stondin gwerthu ffrwythau a llysiau neu fe fyddwn i wedi colli'r tŷ - doedd dim byd ar agor ac felly neb angen tacsi.
"Mae llawer o bobl yn poeni - llawer yma wedi cael Covid ac fe ges i e fy hun ddau fis yn ôl a dyw e ddim yn rhywbeth hoffus."
Rhai ffeithiau:
A fydd modd rhoi cwtsh?
Bydd ymbellhau cymdeithasol yn dod i ben - ond fe fydd rhai busnesau yn dewis parhau i'w gadw er mwyn diogelu cwsmeriaid a staff.
Felly mae modd 'cwtsho', bydd modd cwrdd â phobl a chysgu yn nhai pobl ond mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod yn rhaid parhau i fod yn ofalus ac yn annog pobl i gadw pellter a chwrdd mewn llefydd sydd wedi'u hawyru'n dda.
A fydd rhaid archebu wrth y bwrdd mewn bwytai neu ar ap?
Mae hynny'n ddibynnol ar y bwyty neu'r dafarn. Bydd rhai cyfyngiadau o bosib yn parhau er mwyn diogelu staff a chwsmeriaid ond yn gyffredinol bydd pobl yn gallu mynd at y bar i archebu bwyd a diod.
A all fy mhennaeth fy ngorfodi i ddychwelyd i'r swyddfa?
Y cyflogwr sydd i benderfynu ar hyn ond cyngor Llywodraeth Cymru yw i bawb weithio o adref, os yn bosib.
Fydd gwyliau, sioeau a phartïon yn dychwelyd?
Tan heddiw doedd dim hawl gan mwy na chwech o bobl gyfarfod mewn cartref preifat ond bellach does dim cyfyngiad ar y nifer.
Bydd hawl gan glybiau nos i agor.
A oes cyfyngiadau ar briodasau ac angladdau?
Fydd yna ddim cyfyngiad cyfreithiol ar y nifer o bobl sy'n cael mynychu ond bydd yn rhaid i leoliadau gyflwyno mesurau er mwyn lleihau y risg o'r haint - fe allai hyn olygu ymbellhau'n gymdeithasol .
Dywed Rhian Davies, prif weithredwr Anabledd Cymru, ei bod yn poeni na fydd pobl anabl yn rhan o gymdeithas.
"Fe allai'r neges i bobl anabl fod yn un cymysglyd," meddai, "wrth i feddygon teulu ac arbenigwyr ddweud bod yn rhaid bod yn ofalus.
"Os nag oes neges glir gan gyrff cyhoeddus - fe allai rhai pobl deimlo'n eilradd.
"Rhaid cofio hefyd," ychwanegodd, "fod pobl ar wahân i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn, ffon wen neu gi tywys yn wynebu risg.
"Rhaid parhau i weithredu mewn ffordd sy'n parchu eraill."
'Pawb yn barod i fynd'
Bydd Clwb Rygbi Crucywel yn teithio ddydd Sadwrn i Gwm Rhondda i chwarae eu gêm gystadleuol gyntaf ers Chwefror 2020.
Dywedodd rheolwr y tîm, Bleddyn Carrington, bod y chwaraewyr yn hynod o gyffrous ond bod rhai yn ofni nad ydynt yn chwarae gystal â'r hyn oedden nhw 18 mis yn ôl.
Fe chwaraeodd y tîm eu gêm gyfeillgar gyntaf ganol Gorffennaf ond "fe fydd yr awyrgylch yn wahanol ddydd Sadwrn", medd y rheolwr.
"Does dim byd fel cael torf yn eich gwylio ac yn gweiddi arnoch pan chi wedi dal y bêl neu'n taclo - chi'n anghofio sut brofiad oedd y cyfan."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst 2021
- Cyhoeddwyd4 Awst 2021
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2021