Galw am 'adfer democratiaeth' Ceredigion wedi'r cyfyngiadau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cyngor Sir CeredigionFfynhonnell y llun, Ian Capper/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Cyngor Ceredigion y bydd y drefn bresennol o reoli yn parhau am fod nifer yr achosion yn y sir yn uchel

Mae anniddigrwydd yng Ngheredigion nad yw'r cyngor sir wedi mynd yn ôl i'r drefn arferol o reoli er bod Cymru bellach ar lefel rhybudd sero.

Fe gafodd rhan fwyaf o gyfyngiadau Covid Cymru eu llacio gan y prif weinidog ddydd Sadwrn.

Mewn e-bost at gabinet Cyngor Ceredigion yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth arweinydd yr wrthblaid, y Cynghorydd Ceredig Davies, ofyn a yw'n bryd cael gwared ar y Drefn Reoli Aur yn sgil llacio cyfyngiadau.

Mae Trefn Reoli Aur yn rhoi pwerau ychwanegol i'r prif weithredwr fedru gwneud penderfyniadau yn ystod y pandemig, yn hytrach na'r cyngor llawn.

Gan fod y cyfyngiadau wedi eu codi mae rhai cynghorwyr am weld y drefn ddemocrataidd yn cael ei hadfer.

Eu dadl nhw fel aelodau etholedig yw mai nhw ddylai wneud penderfyniadau gwleidyddol.

Dywedodd Cyngor Ceredigion y bydd y Drefn Rheoli Aur yn parhau am gyfnod gan fod niferoedd achosion Covid yn parhau'n uchel yn y sir.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Cynghorydd Ceredig Davies, sy'n berchen ar siop yn Aberystwyth, bod angen "adfer democratiaeth"

Dywed y Cynghorydd Davies, sy'n aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol, na chafodd ymateb i'w ebost.

Roedd felly wedi ysgrifennu llythyr at arweinydd y cyngor ddydd Mawrth gan ofyn a yw hi'n bosib diddymu'r awdurdod a roddwyd i'r prif weithredwr ar 25 Mawrth 2020.

Yn ei lythyr dywed y Cynghorydd Davies ei fod yn ymwybodol o'r gwaith caled sydd wedi cael ei wneud gan swyddogion y cyngor yn ystod cyfnod y pandemig.

Ond serch hynny "ei bod yn bryd bellach adfer democratiaeth a sicrhau bod yr hawl i wneud penderfyniadau yn cael ei ddychwelyd i gynghorwyr".

Petai'r prif weithredwr yn absennol, y cyfarwyddwr corfforaethol neu aelod arall o grŵp yr arweinydd fyddai'n gwneud penderfyniad.

'Cuddio tu ôl i'r gorchymyn aur'

Mae Elizabeth Evans, cynghorydd sir yn Aberaeron, ymhlith y rhai sy'n anfodlon.

"Ni ar lefel sero nawr felly mae angen i'r gorchymyn aur ddod i ben," meddai.

"Mae gwir ddiffyg democrataidd yn y penderfyniadau yng Ngheredigion ar hyn o bryd ac mae hynny'n bryder mawr - ni'n clywed e trwy'r adeg ar y strydoedd.

"Mae swyddogion yng Ngheredigion wedi gweithio'n galed iawn i sicrhau ein bod ni'n saff dros y misoedd diwethaf gyda Covid, ond mae diffyg democratiaeth yn y sir, ac mae wedi achosi niwed difrifol i enw da y cyngor yng ngolwg y pleidleiswyr.

"Y teimlad ymysg pobl Ceredigion yw bod y cabinet yn cuddio tu ôl i'r gorchymyn aur."

'Cyfraddau Covid yn uchel'

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor nos Fercher y "bydd y Drefn Rheoli Aur yn parhau am y tro i wneud penderfyniadau gweithredol mewn perthynas â Covid-19".

"Mae cyfraddau Covid-19 dal yn uchel yn y sir. Mae achosion yn cynyddu mewn ambell ardal arfordirol yn enwedig, lle mae nifer fawr o dwristiaid," meddai.

"Bydd arweinydd a dirprwy-arweinydd y cyngor yn adolygu'r penderfyniad i ddirprwyo pwerau i uwch-swyddogion yn eu habsenoldeb erbyn diwedd Awst.

"Noder mai dan ddeddfwriaeth 'Civil Contingencies' mae'r Drefn Rheoli Aur yn gweithredu oherwydd argyfwng y pandemig, ac nid oherwydd cydsyniad yr arweinydd a'r dirprwy-arweinydd.

"Nid yw'r cabinet yn teimlo bod diffyg democrataidd yn y drefn bresennol gan fod cyfarfodydd wythnosol rhwng y cabinet ac uwch-swyddogion wedi parhau trwy gydol y pandemig."

Pynciau cysylltiedig