Covid-19: Sut bod Ceredigion wedi osgoi'r gwaethaf?
- Cyhoeddwyd
Mae profiad Ceredigion o ddelio gyda coronafeirws wedi denu tipyn o sylw yn ystod y pythefnos diwethaf.
Dyma'r sir sydd â'r gyfradd isaf ond un o farwolaethau Covid-19 drwy Gymru a Lloegr.
Eisoes mae ymdrechion y cyngor lleol - a sefydlodd system ei hun i olrhain achosion - wedi derbyn canmoliaeth.
Ond mae cyfraddau isel y rhanbarth o'r haint yn deillio o "gyfuniad" o ffactorau, yn ôl swyddogion iechyd cyhoeddus.
Mae BBC Cymru wedi cynnal dadansoddiad manwl o'r data sydd ar gael, gan ganolbwyntio ar safle Ceredigion mewn perthynas â ffactorau risg hysbys ar gyfer lledaeniad Covid-19.
Beth yw'r ffigyrau diweddaraf?
Edrychwch ar fap o Gymru yn ôl awdurdod lleol, dolen allanol, ac mae Ceredigion wir yn sefyll allan o ran nifer yr achosion o'r clefyd sydd wedi'u cadarnhau.
Yno maen nhw'n dal i fod mewn ffigyrau dwbl, tra bod pob sir arall wedi gorfod ymdopi â channoedd ar gannoedd.
A does dim modd egluro hyn trwy ddiffyg profion, yn ôl Dr Eleri Davies o Iechyd Cyhoeddus Cymru.
O ystyried y boblogaeth, nid yw cyfraddau profi "wedi bod yn sylweddol is nag ar gyfer awdurdodau lleol eraill", meddai. Ac - yn bwysig - mae canran y samplau sy'n dod yn ôl gyda chanlyniad positif yn "isel iawn" yng Ngheredigion - tua 3%.
A yw'n ymwneud â daearyddiaeth?
Mae bod yn sir arfordirol yng nghanol Cymru - ymhell o ganolbwynt cynnar yr epidemig yn ne-ddwyrain Cymru - yn sicr wedi bod yn fantais, meddai arbenigwyr.
"Maen nhw i'r gorllewin wrth gwrs o'r ardaloedd mwya' trefol yng Nghymru - ac roedd yr ardaloedd rheini wedi'u heffeithio fwy wrth i'r cyfyngiadau symud ddod i mewn," eglurodd Dr Davies.
"Dwi'n credu bod y daearyddiaeth yn help - y siawns o ledaeniad yn cael ei leihau oherwydd ei bod yn ardal wledig hefyd."
Yn gyffredinol mae rhannau mwy poblog y wlad wedi profi cyfraddau uwch o'r afiechyd.
Dim ond Powys sydd â llai o bobl fesul cilomedr sgwâr na Ceredigion - er bod ganddo fwy o achosion a marwolaethau.
"Mae Ceredigion o leiaf yn rhannol wedi'i amddiffyn gan ei ddaearyddiaeth," cytunodd yr Athro Rhys Jones o Brifysgol Aberystwyth.
"Yn gynta' mae Ceredigion yn weddol anghysbell, sy'n ffactor pwysig iawn - yn golygu bod ymlediad y feirws yma wedi bod yn arafach i ddechrau.
"A hefyd wrth gwrs ry'n ni'n ymwybodol bod y feirws yn ymledu drwy gysylltiad â phobl - ac felly os ydy pobl yn byw bellach bant o'i gilydd, yna mae hynny yn mynd i arafu'r ymlediad."
Mae'r Athro Jones yn rhan o brosiect yn adran Daearyddiaeth Ddynol y brifysgol sydd wedi bod yn ymchwilio i ledaeniad y feirws drwy Ewrop.
Daeth yr astudiaeth i'r casgliad bod y DU yn sefyll allan o'i chymharu â gwledydd eraill o ystyried i ba raddau y mae'r afiechyd wedi gallu effeithio'n ddifrifol ar bron i bob ardal - gyda Cheredigion yn "un o'r ychydig eithriadau".
"Wrth i ni edrych ar wledydd eraill ry'n ni'n nodi bod y feirws wedi cael ei gaethiwo mewn rhai ardaloedd ychydig bach yn fwy na'r profiad ym Mhrydain.
"A falle bod e'n wendid o ran ymateb Prydain yn enwedig yn y cyfnod cynnar - a falle dyle fod ymdrechion wedi bod ychydig bach yn gynt i geisio creu y cyfnod clo."
Beth am lefelau amddifadedd ac afiechyd?
Ymysg y ffactorau risg eraill sydd wedi'u dangos i ddylanwadu ar ymlediad Covid-19 a difrifoldeb ei effaith mae lefelau tlodi.
Er bod gan Ceredigion bocedi o amddifadedd, mae ystadegau'n dangos ei fod ymhlith y rhannau mwyaf cefnog o'r wlad.
Ac mae ffigyrau o 2016, dolen allanol yn awgrymu bod canran y boblogaeth sy'n dioddef o gyflyrau hir dymor all eu gwneud yn fwy bregus fel asthma, COPD a diabetes ychydig yn is na llawer o weddill Cymru hefyd.
Awgrymodd astudiaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 6.5% o boblogaeth Ceredigion yn byw gyda diabetes, er enghraifft, o gymharu ag 8.6% ym Mlaenau Gwent.
Faint o farwolaethau sydd wedi bod mewn cartrefi gofal?
Ceredigion sydd â'r gyfradd isaf o farwolaethau mewn cartrefi gofal fesul bob o le mewn cartref o'r fath ledled Cymru - sef 0.04%.
Mewn gwirionedd, hyd yma dim ond un farwolaeth y mae Ceredigion wedi'i chofnodi mewn cartref gofal, o ganlyniad i Covid-19.
Cymharwch hynny â Phowys, lle mae dros hanner y marwolaethau wedi bod mewn cartrefi gofal, yn ôl ffigyrau'r ONS.
Mae clystyrau o coronafeirws mewn cartrefi gofal wedi cael effaith nodedig ar nifer yr achosion a marwolaethau mewn ardaloedd eraill hefyd fel Caerdydd ac Abertawe.
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi derbyn cydnabyddiaeth am gyflwyno system cwarantîn ar gyfer cartrefi gofal ddyddiau cyn y cyfnod cloi cenedlaethol - sy'n golygu na chaniatawyd unrhyw ymwelwyr.
Beth arall wnaeth y cyngor?
Sefydlodd ei system profi ac olrhain ei hun yn nyddiau cynnar y pandemig - ac fe wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru gydnabod fod hynny wedi cyfrannu at atal achosion newydd yn y sir.
"Fe gafodd y system profi ac olrhain ei chadw i fynd drwy'r pandemig yng Ngheredigon. Felly mae hynny wedi golygu bod bob achos wedi cael ei ddilyn i fyny yn fanwl iawn yno," meddai Dr Eleri Davies.
"Mae'r awdurdod lleol yn cyflogi nifer fawr o'r boblogaeth yng Ngheredigion a buon nhw'n olrhain achosion yn dibynnu ar symptomau yn ogystal â'r sawl oedd wedi derbyn prawf positif.
"Rwy'n meddwl bod y gwaith maen nhw wedi'i wneud wedi cyfrannu at y ffigyrau da iawn sydd gyda nhw yng Ngheredigion."
Byddai'n cymryd tan 1 Mehefin i Lywodraeth Cymru gyflwyno ei strategaeth Profi, Olrhain, Amddiffyn ei hun ar draws gweddill y wlad.
Fe gafodd safleoedd carafanau a gwersylla anogaeth i gau gan y cyngor cyn cyfarwyddiadau'r llywodraeth hefyd.
A threfnwyd ymdrechion i gyflenwi bwyd a nwyddau hanfodol i bobl a oedd yn gorfod hunan-ynysu am resymau meddygol yn lleol, er mwyn osgoi dod â'r feirws i mewn o rannau eraill o Gymru.
Dywedodd prif weithredwr y cyngor, Eifion Evans, wrth BBC Cymru Fyw yn ddiweddar ei bod yn llawer rhy gynnar i fod yn hunanfodlon, ac y gallai'r sefyllfa newid dros nos pe bai'r haint yn cydio.
Ond mae'r Athro Rhys Jones o Brifysgol Aberystwyth yn cytuno bod gweithredoedd lleol wedi cael dylanwad.
"Yn sicr galle rhywun gael yr argraff bod daearyddiaeth yn esbonio popeth - ond mae'n rhaid i ni edrych ar ymateb y cyngor," meddai.
"Yn sicr fe wnaethon nhw ymateb ychydig bach yn gynt ac mewn ffordd 'chydig bach yn fwy rhagweithiol na rhai cynghorau eraill a dyle ni fod yn falch iawn o hynny."
Pan ofynnwyd iddi a ddylid siarad am Geredigion fel stori lwyddiant, dywedodd Dr Davies bod 'na "nifer o resymau pam fod ffigyrau Ceredigion fel y maen nhw".
"I ddweud y gwir mae Cymru gyfan wedi bod yn dda iawn yn dilyn y cymhellion a'r canllawiau a chadw pellter.
"Felly dwi ddim yn credu bydd angen i ni edrych ar Geredigion yn wahanol iawn ond maen nhw wedi 'neud yn dda - mae Cymru gyfan wedi 'neud yn dda iawn dwi'n credu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd16 Mai 2020