Adran gynllunio Sir Gâr wedi gorwario o £1.8m y flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad damniol wedi beirniadu adran gynllunio Cyngor Sir Caerfyrddin, gan ddweud ei fod wedi gorwario o bron i £2m y flwyddyn ers 2015.
Fis Mawrth eleni roedd 847 o geisiadau cynllunio a 761 o achosion gorfodaeth eto i gael sylw'r adran, gyda rhai yn dyddio 'nôl dros bum mlynedd, meddai'r adroddiad.
Ychwanegodd corff Archwilio Cymru bod yr adran wedi gorwario o £1.8m y flwyddyn rhwng 2015 a 2020.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Emlyn Dole y bydd newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud, gyda rhai o'r rheiny eisoes ar waith.
Mae BBC Cymru yn deall bod pennaeth cynllunio Cyngor Sir Gâr, Llinos Quelch, wedi gadael ei swydd a bod Noelwyn Daniel yn ymgymryd â'r rôl dros dro.
Digon o adnoddau
Yn ôl yr adroddiad mae'n ymddangos fod gan yr adran ddigon o adnoddau, ond nad oes ganddo'r capasiti i ddelio gyda cheisiadau newydd yn ogystal â'r rhai sydd eto i gael eu sylw.
Mae gan yr adran gynifer o geisiadau, mae rhai ohonynt wedi cael eu pasio ymlaen i gwmni preifat.
Dywedodd yr archwilwyr bod disgwyl i nifer yr achosion gorfodaeth - ble mae'r cyngor yn gweithredu yn erbyn rhywun pan eu bod wedi torri rheolau cynllunio - gynyddu, ac nad ydy'r gwasanaeth yn gynaliadwy.
Ychwanegodd yr adroddiad fod "angen mynd i'r afael ar frys â materion arwyddocaol a hirsefydlog o ran perfformiad yn y gwasanaeth cynllunio".
Dywedodd Mr Dole bod y cyngor wedi cynnal adolygiad ei hun, wnaeth arwain at 50 o argymhellion, ond yn ôl Archwilio Cymru nid yw'r cyngor wedi blaenoriaethu gweithredu ar yr argymhellion hynny.
Ychwanegodd yr archwilwyr y gallai perfformiad gwael yr adran gael effaith ar allu'r cyngor i gyflawni prosiectau adnewyddu mawr.
Mae'r adroddiad yn gwneud 17 argymhelliad, gan gynnwys cael cynllun i fynd i'r afael â'r ceisiadau sydd eto i gael sylw'r adran.
Newidiadau 'eisoes ar waith'
Dywedodd Mr Dole bod y cyngor yn adolygu ac yn herio ei wasanaethau ei hun yn rheolaidd.
"Ochr yn ochr â'r adroddiad hwn, rydym wedi ceisio adborth gan ein cwsmeriaid ac wedi gwrando arnynt i ddeall eu hanghenion a'u rhwystredigaethau," meddai.
"Mae hyn wedi dod â nifer o feysydd allweddol i'r amlwg lle bydd newid sylweddol yn cael ei weithredu i wella'r gwasanaeth cynllunio.
"Mae'r gwaith hwn eisoes yn mynd yn ei flaen yn dda, ac mae tîm ymroddedig yn gweithio drwy systemau a gweithdrefnau i symleiddio'r ffordd yr ydym yn prosesu ceisiadau ac yn gorfodi'n effeithiol gan gefnogi datblygiad yn awr ac yn y dyfodol yn unol â pholisi cynllunio cenedlaethol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd5 Mai 2021
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2021