Gohirio gêm gyntaf Wrecsam oherwydd Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
WrecsamFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae gêm agoriadol y tymor i Glwb Pêl-droed Wrecsam wedi cael ei gohirio ar ôl i achosion Covid-19 ddod i'r amlwg ymhlith carfan eu gwrthwynebwyr, Yeovil.

Roedd Wrecsam i fod i groesawu Yeovil i'r Cae Ras ddydd Sadwrn nesaf, 21 Awst.

Ond gyda'r gêm honno bellach wedi'i gohirio, bydd y Cymry yn teithio i herio Eastleigh yn eu gêm gyntaf o'r tymor, a hynny ar ddydd Sadwrn 28 Awst.

Bydd gêm gartref gyntaf Wrecsam yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr felly ar ddydd Llun Gŵyl y Banc, 30 Awst.

Mae Wrecsam yn dweud y bydd trefniadau i ailchwarae'r gêm yn erbyn Yeovil yn cael eu cyhoeddi maes o law.