Wrecsam yn penodi Phil Parkinson fel rheolwr

  • Cyhoeddwyd
Phil ParkinsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Phil Parkinson wedi arwyddo cytundeb 12 mis gyda'r clwb

Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi penodi Phil Parkinson fel eu rheolwr newydd.

Mae'r clwb wedi bod yn chwilio am reolwr ers i Dean Keates adael ar ôl i'w gytundeb ddod i ben ar ddiwedd y tymor.

Mae Parkinson, 53, yn gyn-reolwr ar Bradford, Bolton a Sunderland, ac mae wedi arwyddo cytundeb 12 mis.

Fe wnaeth Wrecsam hefyd gyhoeddi'r wythnos hon mai'r ap cyfryngau cymdeithasol enfawr, TikTok fydd yn eu noddi y tymor nesaf.

Daw hynny wedi i ddau o sêr Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, gymryd perchnogaeth o'r clwb fis Ionawr.

Bydd Steve Parkin hefyd yn ymuno â Wrecsam fel is-rheolwr i Parkinson.