Rhybudd ar ôl achub dynes o'r môr oddi ar Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
bad achub Moelfre, 'Enfys'Ffynhonnell y llun, Phil Hen Williams
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd criw bad achub Moelfre eu galw i helpu'r ddynes

Mae'r RNLI wedi rhybuddio unrhyw un sy'n cael eu sgubo allan i'r môr ar rafft neu fflôt i aros arno nes bod help yn cyrraedd, yn hytrach na cheisio nofio i'r lan.

Daw hynny wedi i ddynes gael ei hachub ar ôl mynd i drafferthion ger Traeth Lligwy ar Ynys Môn ddydd Gwener.

Roedd hi'n "ffodus iawn", meddai achubwyr, fod dyn mewn caiac wedi mynd ati er mwyn iddi allu gafael yn ei gwch nes i'r bad achub gyrraedd.

Wnaeth y ddynes ddim dioddef o unrhyw sgileffeithiau difrifol, ond fe gyfaddefodd ei bod wedi bod yn "wirion" gan ddiolch i'r rheiny ddaeth i'w hachub.

'Diolch i bawb'

Cafodd yr RNLI eu galw toc cyn 15:00 brynhawn Gwener wedi adroddiadau fod dynes mewn cwch gwynt yn ei chael hi'n anodd cyrraedd yn ôl i'r lan.

Fe esboniodd hi wrth yr achubwyr ei bod hi wedi panicio o weld ei bod hi'n mynd yn bellach allan i'r môr, ac felly wedi neidio i'r dŵr er mwyn ceisio nofio yn ôl.

Ar ôl i'r caiaciwr sylweddoli ei bod hi mewn trafferth fe aeth allan ac aros gyda hi nes bod y bad achub yn cyrraedd.

"Mae cychod gwynt yn beryglus mewn unrhyw fath o wynt o'r tir a ddylen nhw ddim gael eu defnyddio, yn enwedig heb yr offer diogelwch priodol," meddai llyw y bad achub, Dwynwen Parry.

"Roed y ddynes yn ffodus iawn bod rhywun wedi gweld beth ddigwyddodd, a wnaeth hi ddim sylweddoli gwir difrifoldeb y sefyllfa nes iddi gyrraedd y lan.

"Os ydych chi fyth yn canfod eich hunain mewn sefyllfa debyg, arhoswch ar y cwch awyr nes eich bod chi'n cael eich hachub - peidiwch fyth â neidio i mewn a nofio i'r lan."

Ychwanegodd y ddynes gafodd ei hachub, Wendy Goddard, ar neges Facebook yr RNLI ei bod hi wedi bod yn "wirion".

"Diolch i bawb ond dim ond dau arwr sydd, Ian yn y caiac a'r tîm achub. Allai ddim eu canmol nhw ddigon a fydden i ddim yma heno oni bai amdanyn nhw."