Arestio saith o Gymru yn dilyn ymosodiad yn Lerpwl

  • Cyhoeddwyd
Bold StreetFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i ganol Lerpwl yn oriau mân y bore

Mae saith dyn o Gymru wedi eu harestio yn dilyn ymosodiad difrifol yn Lerpwl yn oriau mân bore Sadwrn.

Dywedodd yr heddlu bod dyn 24 oed o Ogledd Iwerddon yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Bold Street yng nghanol Lerpwl am tua 01:00 ar 14 Awst.

Dywedodd Heddlu Glannau Mersi bod gan y dyn anafiadau pen difrifol.

Y gred yw ei fod yn cerdded gyda thri ffrind pan ddigwyddodd yr ymosodiad.

Cafodd dyn 40 oed o Bontypridd ei arestio ar amheuaeth o ymosod ac o fod â chyffuriau yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi.

Mae chwe dyn arall, oll o dde Cymru a rhwng 33 a 41 oed, hefyd wedi eu harestio ar amheuaeth o fod â chyffuriau yn eu meddiant gyda'r bwriad o gyflenwi.

Mae'r heddlu'n dal yn awyddus i siarad gydag unrhyw un all fod â gwybodaeth, ac maen nhw'n apelio yn benodol ar yrwyr tacsi oedd yn yr ardal ar y pryd i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig