'Rhy hwyr i wneud dim' am sefyllfa Afghanistan

  • Cyhoeddwyd
Aelodau'r Taliban yn KabulFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau'r Taliban yn Kabul, ble mae llywodraeth Afghanistan wedi dymchwel

Mae cyn-AS a ymwelodd ag Afghanistan yn ofni bod ymateb llywodraethau'r gorllewin yn "rhy hwyr" wedi i'r Taliban gymryd rheolaeth lwyr o'r wlad dros nos.

Dywed Ann Clwyd ei bod yn "poeni'n arw" am ddiogelwch pobl y daeth i'w 'nabod yn dilyn dau ymweliad â'r wlad, ac am allu merched i barhau i weithio a chael addysg.

Roedd yna olygfeydd o anhrefn ym maes awyr Kabul dros nos wrth i frodorion a thramorwyr geisio ffoi o'r wlad wrth i'r grŵp Islamaidd adennill grym wedi bwlch o 20 mlynedd.

Mae arlywydd Afghanistan, Ashraf Ghani, ymhlith y rhai sydd eisoes wedi gadael, wythnosau wedi i arlywydd yr UDA, Joe Biden gadarnhau fod yn tynnu eu milwyr nhw o'r wlad.

'Hanner cysgu'

Ymwelodd Ann Clwyd â'r wlad tra'n aelod o bwyllgor materion tramor San Steffan.

Dywedodd wrth raglen Dros Frecwast ddydd Llun bod pawb wedi dychryn bod y sefyllfa yn Afghanistan "wedi dirywio mor gyflym" dros y penwythnos.

Bydd Aelodau Seneddol yn dychwelyd i Dŷ'r Cyffredin ddydd Mercher i drafod yr argyfwng ond dywed cyn-AS Llafur Cwm Cynon bod hynny'n "rhy hwyr".

Ffynhonnell y llun, House of Commons

"Ma' nhw'n hanner cysgu," meddai, gan gyfeirio at lywodraethau'r gorllewin. "Dwi 'di bod yn gweiddi ers dyddia' i'r Senedd yn Llundain fynd yn ôl i'r gwaith... maen nhw i gyd yn rhy hwyr.

"Ma'r peth wedi digwydd, bron dros nos. Ma' swyddogion ein gwlad ni yn dod allan o'r wlad, fel ma'r Americanwyr. Bydd rhaid, wrth gwrs, i rywun siarad efo'r Taliban - yn naturiol bydd rhaid iddyn nhw wneud, a does na'm dewis arall.

"Dwi'n nabod rhai o'r Aelodau Seneddol - y merched gath gyfle i fynd i mewn i wleidyddiaeth... dwi jyst yn poeni'n arw iawn be' sy'n mynd i ddigwydd iddyn nhw.

"Dwi ddim yn gweld bod yr Americanwyr yn mynd i 'neud rhyw lawer. Oes na'm byd ar ôl, ddim ond siarad a trio sicrhau bod y bobol sy' 'di gweithio i Brydain ac i America sydd isio ffoi o'r wlad yn medru ffoi o'r wlad."

Pryder dros hawliau merched

Dywedodd llefarydd ar ran y Taliban wrth y BBC dros y penwythnos bod dim bwriad "dial ar unrhyw un" wrth iddyn nhw fynd ati i ffurfio llywodraeth.

Mae llawer yn ofni y byddan nhw'n adfer trefn y cyfnod cyn 2001 ble roedd cosbau am dorri rheolau Sharia yn cynnwys dienyddio cyhoeddus, llabyddio a chyfyngu'n llym ar hawliau merched.

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Mae cannoedd o bobl yn ceisio dal awyrennau o'r wlad ym maes Awyr Kabul

Ond mae Ms Clwyd yn amheus a fydd merched yn rhydd i fyw eu bywydau fel fu'n bosib dan warchodaeth cynghrair o luoedd y gorllewin.

"Dwi ddim yn coelio nhw, mae'n rhaid i mi dd'eud," meddai.

"Dwi di clywed siaradwyr y Taliban dros yr oria' dwytha' ma'n d'eud 'ma' popeth yn iawn, ga'n nhw fynd i'r ysgol merched, ga'n nhw fynd i'r gwaith, cyn belled â bod nhw'n gwisgo naill ai'r burqa neu'r hijab.

"Fel 'dan ni'n gw'bod yn barod, ma' merched yn rhanna' o'r wlad lle ma'r Taliban wedi symud i mewn wedi cael eu gwerthu, wedi cael eu gorfodi i briodi rhai o'r Taliban."

Disgrifiad o’r llun,

Daeth Max Zabih Amiri i'r DU 21 mlynedd yn ôl wedi iddo ffoi rhag y Taliban yn Afghanistan

Mae dyn o Afghanistan a ddaeth i'r DU 21 mlynedd yn ôl i ddianc rhag y Taliban wedi dweud wrth BBC Cymru ei fod yn poeni am ddyfodol y wlad.

Dywedodd Max Zabih Amiri, sy'n 44 oed ac wedi byw yn Wrecsam ers 2002 bod ei rieni yn dal yn byw yn Afghanistan, a'i bod yn "anodd a thrist" peidio gwybod beth fydd yn digwydd yno.

Ychwanegodd mai'r bobl dlotaf fyddai'n dioddef fwyaf oherwydd y gost o adael y wlad.

"Rwy'n drist ac yn edifar yn gweld y bobl hynny," meddai.

"Rwy'n teimlo dros y menywod a'r merched - am yr 20 mlynedd ddiwethaf mae Prydain, America a'r Cenhedloedd Unedig wedi gwneud eu gorau i newid pethau ond mae popeth yn mynd 'nôl fel oedd o.

"Doedd neb yn disgwyl yr hyn sy'n digwydd yno rŵan.

"Cymaint o fywydau wedi'u colli - milwyr o Brydain, America, Ewrop, a phobl Afghanistan. Am beth?"

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r Preifat Richard Hunt yn 2009 wedi i'w gerbyd gael ei daro gan ffrwydrad

Bu farw'r Preifat Richard Hunt o'r Fenni mewn ffrwydrad yn nhalaith Helmand yn Afghanistan 12 mlynedd yn ôl.

Mae ei fam, Hazel, yn ofni nawr y bydd ei farwolaeth yn mynd yn ofer.

"Rwy'n teimlo bechod mawr dros ddinasyddion Afghanistan - mae eu bywydau nhw wedi cael eu rhwygo'n ddarnau dros y 30 mlynedd ddiwethaf a mwy," meddai.

"Ond mae'n gwneud i mi deimlo mor drist bod popeth wnaeth ein bechgyn ni geisio ei gyflawni yn diflannu o fewn dyddiau.

"Dyna pam oedden nhw yno - i wella bywydau pobl Afghanistan.

"Mae 457 o feibion, merched, gwragedd, brodyr wedi cael eu colli am ddim byd."

Ychwanegodd: "Er cymaint wnaethon ni gyflawni yno, roedd gormod i'w wneud, a doedd pethau fyth am gael diweddglo hapus."

Lloches i ffoaduriaid

Mae dau o awdurdodau lleol Cymru wedi ymroddi i gynnig lloches i ffoaduriaid o Afghanistan dan gynllun Llywodraeth y DU.

Mae Cyngor Wrecsam wedi cytuno i gartrefi hyd at 10 o deuluoedd ac mae Cyngor Powys yn cynnig tri chartref diogel.

Yn ôl mudiad Cymdeithas y Cymod, sy'n ymgyrchu dros heddwch a dulliau di-drais o ddatrys gwrthdaro, fe ddylai Llywodraeth y DU fynd gam ymhellach "a chynnig iawndal i ailadeiladu Afghanistan".

Dywed mewn datganiad: "Byddai gweithred o'r fath yn gwneud llawer mwy i hyrwyddo hawliau pobl Afghanistan, merched yn arbennig, nag ymyrraeth filwrol neu economaidd yn nhynged Afghanistan."

Mae hefyd yn "annog gwleidyddion o bob plaid i ddysgu o fethiant rhyfeloedd ymyrraeth a throi at gydweithio rhyngwladol fel modd o setlo pob anghydfod".

Pynciau cysylltiedig