'Dwi ddim am i Afghanistan fod yn wast o fywyd'

  • Cyhoeddwyd
British troops leaving Afghanistan in 2014Ffynhonnell y llun, Ben Birchall/PA Wire
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd milwyr Prydeinig gadael Afghanistan yn 2014

Wrth i luoedd rhyngwladol baratoi i adael Afghanistan, mae perthynas i un milwr o Gymru gollodd ei fywyd yno wedi dweud ei fod yn poeni y gallai ei farwolaeth gael ei weld fel "wast o fywyd".

Ers 20 mlynedd, mae gwledydd y gorllewin wedi bod yn brwydro yn Afghanistan, ond wrth i filwyr y cynghreiriaid adael mae'r Taliban yn ennill tir unwaith eto, a dros hanner pobl y wlad bellach yn byw dan eu rheolaeth.

Bu farw Martin 'Rambo' Richards o Benmachno, commando gyda'r Môr-Filwyr Brenhinol, ar 27 Mai 2009 wedi i'w gerbyd gael ei daro gan fom ochr ffordd. Roedd yn 24 oed.

Roedd yn serennu i'r tîm pêl-droed lleol, Machno United, gan gynnal sesiynau ffitrwydd i'r tîm ar ei gyfnodau o wyliau.

Ffynhonnell y llun, llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Breuddwyd Martin Richards oedd ymuno â'r Môr-Filwyr Brenhinol

Yn gyd-chwaraewr a ffrind i Martin, roedd Owen Davis hefyd yn perthyn i'r milwr drwy briodas. Dywedodd wrth raglen Newyddion S4C bod gan bobl y pentref atgofion cynnes am Rambo.

"Roedd o'n full of beans, practical joker go iawn, lot o barch iddo fo gan Marines eraill o'dd o'n gweithio 'efo.

"Dwi'n meddwl bod ni gyd mor browd ohono fo. Falch i allu galw fo'n ffrind, rhan o'r teulu. Methu fo lot really."

'Hollol wast o fywyd'

Bob blwyddyn, mae ffrindiau Martin Richards yn cwrdd i gofio amdano.

Ddwy flynedd yn ôl, degawd wedi ei farwolaeth, trefnwyd gêm bêl-droed arbennig rhwng y tîm lleol a thîm y Marines, gyda channoedd yn dod i wylio.

Ond wrth weld lluniau diweddar o Afghanistan, lle mae'r Taliban yn prysur ennill tir, mae Owen Davis yn poeni.

"Mae'n anodd iawn pan dwi'n watsiad newyddion. Mae'n dy boeni di - y ffaith bod nhw weld ar hyn o bryd yn ennill lot o dir nôl. Ti just yn gobeithio neith o'm digwydd neu 'sa fo'n teimlo fel hollol wast o fywyd.

"'Da ni ddim isio fo deimlo fel hollol wast. 'Da chi isio i'r newidiada' mae'r hogia 'na 'di neud yn y wlad i aros yna."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Owen Davis yn poeni bod effaith yr ymdrech filwrol wedi dirywio

Yn ôl amcangyfrifon, mae bron i chwarter miliwn o bobl wedi eu lladd yn rhyfel Afghanistan ers 2001. Bu farw 1,659 o sifiliaid yno yn ystod hanner cyntaf eleni - y nifer uchaf ers dechrau cadw cofnod yn 2009.

Mae gwledydd y gorllewin wedi addo gadael y wlad erbyn 11 Medi eleni. Ond yn absenoldeb niferoedd mawr o filwyr ar y ddaear, mae'r Taliban wedi gweld eu cyfle i ymosod.

Eisoes, maen nhw'n dal gafael ar dipyn o ardaloedd cefn gwlad.

Ond yn yr wythnos ddiwethaf, maen nhw hefyd wedi cipio naw prifddinas taleithiol, ac mae brwydro ffyrnig hefyd wedi bod yn Lashkar Gah - prifddinas talaith Helmand lle bu'r rhan fwyaf o filwyr Prydain yn ymladd.

Disgrifiad,

"Ma' 'na adega' lle dwi'n meddwl i fy hun, i be o'dd o gyd?"

Bu farw 456 o filwyr gwledydd y DU yn Afghanistan. 2009 oedd y flwyddyn lle gwelwyd y nifer uchaf o golledion, gyda 108 milwr Prydeinig yn marw.

Un fu yno yr haf hwnnw oedd Mark Owen o Gaernarfon.

Yn sarjant ar y pryd, mae o bellach wedi gadael y fyddin. Ond mae ei brofiadau yn Afghanistan yn chwarae ar ei feddwl hyd heddiw.

"Ma' 'na rei petha sy'n croesi meddwl fi bob diwrnod. A dim just un waith, ma' 'na rei petha sy'n croesi meddwl fi, fedrith o fod dwy waith mewn awr.

"A ma' 'na rei hogla sy'n aros hefo fi - fedrai ddim cerddad heibio garej gwerthu teiars ceir am bod yr ogla yn atgoffa fi o ogla IED yn chwythu."

Bu'n dyst i sawl marwolaeth, gan gynnwys ffrwydrad laddodd prif swyddog y Gwarchodlu Cymreig, Rupert Thorneloe.

"Hynna sy'n sticio hefo fi ydy faint o bobl nath fynd. Especially efo fatha Facebook a Twitter, ma' 'na lot o bobl yn neud anniversaries o farwolaethau servicemen a 'sa chdi'n synnu faint sy'n dod fyny nath farw yn yr haf 'na 2009.

"Ma na un, dau weithia tri bob wsnos."

Ond er gwaethaf y sefyllfa bryderus yno, mae'n dal i obeithio i filwyr wneud gwahaniaeth.

"Ma' 'na adega' lle dwi'n meddwl i fy hun, i be o'dd o gyd?

"Ond i fi, os 'nath o ni neud gwelliant a gwella bywyd pobl yna, os o'dd o am amser byr neu amser hir, dwi yn meddwl bod 'na rywfaint o werth mewn gwneud hynna."

'Mwy o anrhefn'

Fel cyfieithydd i fyddin Prydain, bu Nazir Ayeen yn gefn i filwyr fel Mark Owen.

Yn ogystal â chyfieithu i filwyr ar batrol, bu hefyd yn cyfieithu i wleidyddion o Brydain, gan gynnwys William Hague ac Alan Johnson, yn ogystal â'r Tywysog Charles.

Erbyn heddiw, mae'n byw yn Llundain. Ond dywedodd ei fod yn poeni'n fawr am ddyfodol ei famwlad.

Disgrifiad o’r llun,

Creda Nazir Ayeen bod y rhyfel wedi gwneud mwy o niwed i'r wlad

"Ers dechrau'r ymgyrch filwrol yn Afghanistan, roedd pethau wedi eu llywio gan America a Phrydain a'r gorllewin - doedd o ddim wedi selio ar ddymuniadau pobl Afghanistan.

"Cafodd ei greu yn Ewrop ac America ac fe orffennodd gyda chynllun a bwriad America.

"Yn anffodus, ni ddaeth yr heddwch a addawyd i bobl Afghanistan. Fe wnaeth achosi mwy o anhrefn.

"Mae mwy o lanast yn Afghanistan nawr nag oedd 20 mlynedd yn ôl."

"Mae'r Taliban llawer cryfach, maen nhw'n rheoli mwy o dir na llywodraeth Afghanistan a dy'n nhw ddim yn barod i negydu gyda'r llywodraeth.

"Maen nhw'n teimlo bod y llywodraeth yno o ganlyniad i oresgyniad gorllewinol - gan Brydain ac America.

"Mae'r goresgyniad wedi dod i ben, ac maen nhw'n teimlo felly y dylai'r llywodraeth hefyd ddod i ben."

'Gwella miliynau o fywydau'

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn: "Mae gennym ni fel gwlad le mawr i ddiolch i'r miloedd o filwyr a lluoedd arfog wasanaethodd yn Afghanistan, ac i'r Afghaniaid a'u cefnogodd.

"Rhaid i ni byth anghofio eu haberth, na chwaith yr hyn a gyflawnwyd ganddyn nhw.

"Am 20 mlynedd, llwyddasant i rwystro terfysgwyr rhag cael hafan i lansio ymosodiadau ar y DU, gan gynorthwyo wrth ffurfio a thyfu lluoedd Afghanaidd er mwyn amddiffyn eu gwlad rhag eithafwyr.

"Ac fe sicrhaon nhw welliant i filiynau o fywydau a thrawsnewid cymdeithas Afghanistan."

Pynciau cysylltiedig