Darlunydd yn disgrifio trasiedi rhyfel Afghanistan

  • Cyhoeddwyd
TroopsFfynhonnell y llun, Dan Peterson

Roedd hi bron yn anochel byddai Afghanistan yn cwympo nôl dan reolaeth y Taliban pan adawodd byddinoedd Nato, meddai un darlunydd rhyfel.

Teithiodd Dan Peterson o Gaerdydd i Lashkar Gah yn 2011 i ddarlunio Gwarchodlu Dragŵn y Frenhines wrth iddynt ymladd yn erbyn y grŵp radical.

Mae'r llywodraeth yno - a ffurfiwyd gyda chymorth milwyr o Brydain - wedi'i dymchwel a'r arlywydd wedi ffoi o'r wlad.

Mae'r rhan fwyaf o'r wlad nawr o dan reolaeth y Taliban unwaith eto.

Bu farw 457 o filwyr Prydeinig, gan gynnwys 32 o Gymru, ers i fyddinoedd Nato ymuno â'r rhyfel yno yn 2001.

Ffynhonnell y llun, Dan Peterson
Disgrifiad o’r llun,

Treuliodd Dan Peterson fis yn darlunio milwyr yn Afghanistan

Gan alw'r sefyllfa yn "hynod o drist", dywedodd Mr Peterson: "Mae pobl yn ei ddisgrifio fel rhywbeth cyflym [y Taliban yn cymryd pŵer] ond mae hyn wedi bod yn digwydd ers 10 mlynedd.

"Pan oeddwn i yno, roedd rhai yn siarad am drosglwyddiad o bŵer [o Nato i fyddinoedd Afghan]."

Gofynnodd Mr Peterson i un o Gadlywyddion Byddin Afghanistan beth oedd angen i Nato wneud er mwyn cynnal y llywodraeth ddemocrataidd.

"Atebodd 'lladd y Taliban i gyd'," meddai.

Ffynhonnell y llun, Dan Peterson

"Mae yna lwyth o broblemau, maen nhw wedi'u gadael yn ansefydlog, ni wedi cerdded i ffwrdd, ac mae'r wasg wedi trafod y ffaith na chafodd byddin Afghanistan hyfforddiant digon da," meddai Mr Peterson.

"Ond y prif beth yw ofn yr ôl-effeithiau.

"Mae pobl yn gwybod beth mae'r Taliban yn medru gwneud a'r ffordd maen nhw wedi trin eu gelynion.

"Mae hyn yn bwerus yn ystod rhyfel ac o'n i'n gwybod na fydden nhw'n gallu delio gyda hyn... o'n nhw angen help eu cynghreiriaid."

Ffynhonnell y llun, Dan Peterson

Dechreuodd y rhyfel yn 2001 yn dilyn ymosodiadau 9/11 ar Efrog Newydd a Washington, pan ddywedodd yr Unol Daleithiau bod y Taliban yn rhoi lloches i Osama Bin-Laden a'r grŵp Al-Qaeda yn Afghanistan.

Pan wrthododd y Taliban i roi Bin-Laden i'r Unol Daleithiau, fe wnaeth byddinoedd Americanaidd ddisodli'r grŵp gan addo cefnogi democratiaeth a chwalu'r bygythiad terfysgol.

Ymunodd cynghreiriaid Nato, gan gynnwys y DU, a chafodd llywodraeth newydd ei ffurfio yn 2004.

Serch hynny, parhaodd y gwrthdaro gyda'r Taliban.

Ffynhonnell y llun, Dan Peterson

Yn 2014, yn dilyn y flwyddyn fwyaf gwaedlyd ers 2001, gadawodd byddinoedd rhyngwladol Nato, gan gynnwys y DU, gan adael byddin Afghanistan yn gyfrifol am ddiogelwch y wlad.

Y llynedd, cytunodd byddin yr Unol Daleithiau i ddechrau gadael hefyd yn dilyn cytundeb rhwng y Taliban a'r cyn-Arlywydd Trump.

Dyma pryd dechreuodd y Taliban adennill pŵer eto.

Ffynhonnell y llun, Dan Peterson

Mae Mr Peterson yn ddarlunydd sydd wedi tynnu lluniau byw o ffoaduriaid yn Bangladesh, pobl yn cael eu hachub gan y Llynges ger arfordir Libya a nyrsys mewn ysbytai yn ystod y pandemig coronafeirws.

Treuliodd 14 mlynedd fel milwr gyda'r Fyddin Diriogaethol cyn penderfynu cyfuno ei waith yn y fyddin gyda'i gelf.

Ar ôl cysylltu gyda nifer o gatrodau, cytunodd Gwarchodlu Dragŵn y Frenhines i'w gymryd i Afghanistan, ac fe gafodd ei hedfan i Gamp Bastion, canolfan y fyddin Brydeinig.

Ffynhonnell y llun, Dan Peterson

"Fe wnaethon nhw gynnig arfwisg i fi, gan ddweud bod y Taliban yn targedu'r wasg," ychwanegodd Mr Peterson.

"Felly, penderfynais i edrych fel milwr - o'n i ddim eisiau cael fy nhargedu.

"Ar ôl cwpl o ddyddiau, ymunais â Gwarchodlu Dragŵn y Frenhines ar batrolau lleoliad, cerbyd ac ar droed. Tair wythnos ar dir oedd wedi'i feddiannu gan y Taliban, lle'r oedd ymladd yn digwydd."

Pynciau cysylltiedig