Heddlu'n ymchwilio ar ôl marwolaeth plentyn 2 oed
- Cyhoeddwyd
Mae plentyn dwy flwydd oed wedi marw ar ôl digwyddiad yn Sir y Fflint.
Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i ddigwyddiad yng Nglannau Dyfrdwy tua 22:00 ddydd Sadwrn, 14 Awst.
Cafodd y plentyn ei gludo i ysbyty yng Nghaer cyn cael ei drosglwyddo i Ysbyty Plant Alder Hey yn Lerpwl, lle bu farw nos Lun.
Mae'r heddlu yn trin y farwolaeth fel un heb esboniad.
"Rydym yn gweithio gydag asiantaethau eraill i ymchwilio amgylchiadau'r digwyddiad," meddai llefarydd.
Dywedodd yr heddlu y dylai unrhyw un gydag unrhyw wybodaeth gysylltu â nhw ar unwaith.
Pynciau cysylltiedig
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol