Rhaid newid rheolau cadw gynnau medd dioddefwr

  • Cyhoeddwyd
Rachel Williams yn yr ysbyty wedi iddi gael ei saethu yn 2011Ffynhonnell y llun, Rachel Williams
Disgrifiad o’r llun,

Rachel Williams yn yr ysbyty wedi iddi gael ei saethu yn 2011

Mae menyw a gafodd ei saethu gan ei gŵr ar ôl iddyn nhw wahanu yn galw am newid y rheolau o ran cadw drylliau wedi'r achos diweddar o saethu torfol yn Plymouth.

Roedd Jake Davison, 22, a saethodd bum person yn farw cyn lladd ei hun ar 12 Awst, â hawl i feddu ar wn ar gyfer saethu colomennod clai.

Mae Rachel Williams, ymgyrchydd ac ymgynghorydd trais domestig o Sir Fynwy, yn galw am gadw gynnau mewn clybiau saethu yn hytrach nag yn y cartref.

Mae'r Swyddfa Gartref yn paratoi canllawiau newydd i gryfhau'r broses benderfynu ar geisiadau.

Mae disgwyl cyngor i archwilio cyfrifon cyfryngau cymdeithasol pobl sy'n dymuno bod yn berchen ar unrhyw fath o wn.

Mewn deiseb, mae Ms Williams hefyd yn galw am atal unrhyw un â hanes o drais domestig, trais, problemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio cyffuriau neu alcohol rhag cael trwydded.

Mae hefyd yn dymuno i bobl orfod ailymgeisio am drwydded bob yn ail flwyddyn.

Ond mae hi o blaid eithrio rhai perchnogion drylliau fel ffermwyr a phobl sy'n saethu ar lefel gystadleuol.

Ffynhonnell y llun, Rachel Williams
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rachel Williams anaf difrifol i'w choes yn yr ymosodiad

Cafodd Ms Williams ei hanafu'n ddifrifol yn 2011, wedi i'w phriodas chwalu, pan ruthrodd ei gŵr Darren i'r salon trin gwallt lle'r oedd hi'n gweithio a'i saethu.

"Saethwyd fy nghoes chwith o agos," meddai. "Roedd rhan fwya'r shin wedi mynd, collais fy mhen-glin. Y cyfan wnaethon nhw lwyddo i'w achub oedd y kneecap."

Wedi chwe awr o chwilio, daeth yr heddlu o hyd i'w gŵr yn farw mewn coedwig gyfagos. Chwe wythnos yn ddiweddarach, cafwyd hyd i'w mab 16 oed, Jack yn farw yn yr un lle.

"Dyna oedd yr effaith fwyaf i mi," meddai. "Bydd hynny wastad yn waeth nag unrhyw anaf corfforol neu feddyliol i mi

"Does heb yn disgwyl, wrth adael cymar sy'n eich cam-drin, i'ch plentyn ladd ei hun o'i herwydd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rachel Williams yn galw am reolau drylliau llymach wedi'r achos saethu diweddar yn Plymouth

Dywedodd Ms Williams mai'r ymosodiad yn Plymouth wnaeth ei hysgogi i drefnu'r ddeiseb.

O fewn 12 munud, fe laddodd Davison ei fam ei hun, oedd yn 51 oed, merch tair oed a'i thad 43 oed, dyn 59 oed a menyw 66 oed cyn lladd ei hun.

"I feddwl mai pobl oedd y rhain oedd yn mynd o gwmpas eu bywydau bob dydd - merch fach yn mynd am dro gyda'i thad," meddai Ms Williams.

"Pan ry'ch chi wedi cael eich saethu fel y digwyddodd i mi, ry'ch chi'n gwybod gall rywun gipio eich bywyd mewn eiliad. Ni alla'i ddeall pam bod unrhyw un angen gwn.

"Dyw swyddogion heddlu arfog ddim yn mynd â gynnau gartref. Rhaid iddyn nhw arwyddo cofnod wrth eu derbyn a'u dychwelyd. Pam bo pobl eraill yn cael cadw gwn gartref? Pam bod eu hangen arnyn nhw?

"Ry'n ni'n gwybod bod llawer o ynnau'n cael eu dwyn mewn lladradau, fel y gwn yn fy achos i."

Pwy all fod yn berchen ar ddryll yng Nghymru, Lloegr a'r Alban?

  • Heddluoedd sy'n rhoi tystysgrifau gynnau a drylliau pelets

  • Rhaid i ymgeiswyr nodi "rheswm da" dros fod yn berchen ar wn - fel rhan o'u gwaith, er enghraifft, neu o fewn maes y campau

  • Mae canolwyr annibynnol yn rhoi datganiadau cymeriad cyfrinachol ynghylch cyflwr meddyliol, bywyd cartref ac agwedd yr ymgeisydd at ddrylliau

  • Mae heddluoedd yn ymchwilio a oes gan yr ymgeisydd record droseddol ac yn holi'r meddyg teulu am dystiolaeth o alcoholiaeth, camddefnydd cyffuriau neu arwyddion o anhwylder personoliaeth

  • Rhaid i ymgeiswyr nodi lleoliad diogel ar gyfer cadw'r dryll - mewn cwpwrdd arbennig, fel arfer

  • Mae tystysgrifau'n ddilys am bum mlynedd

  • Gall yr heddlu ddiddymu tystysgrifau pe bawn nhw'n dod i'r casgliad na ellir ymddiried yn yr unigolyn mwyach

Pynciau cysylltiedig