Achub ci oedd yn gaeth ar ôl syrthio o glogwyn
- Cyhoeddwyd

Tug mewn cwch gyda chriw yr RNLI ar ôl cael ei achub
Mae ci wedi cael ei achub ar ôl syrthio i lawr clogwyn a chael ei hun yn gaeth rhwng creigiau yn ardal Llandudno.
Cafodd criwiau bad achub eu galw i ardal rhwng Porth Dyniewaid a Bae Penrhyn tua 14:00 ddydd Sadwrn i helpu dod o hyd i Tug, cocker spaniel du.
Llwyddodd pum aelod o'r criw i ryddhau'r ci, oedd "wedi cael ysgytwad", er mawr ryddhad i'w berchnogion.
Dywedodd llywiwr y bad achub, Mike Jones: "Roeddan ni'n falch iawn ac yn teimlo rhyddhad o ddarganfod y ci yn fyw ac yn iach.
"Roedd yn amlwg wedi cael profiad trawmatig ac wedi cael ysgytwad. Roedd yn ymdrech wych gan y criw i dynnu'r ci o sefyllfa eithaf heriol."