Chwaraewr rygbi'n marw ar ôl cwympo yn ystod gêm
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i chwaraewr rygbi sydd wedi cwympo a marw ar ôl cael ei daro'n wel yn ystod gêm goffa gyfeillgar yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Roedd y blaenasgellwr Alex Evans, 31, yn chwarae i dîm Cwmllynfell ar faes Parc y Bryn y clwb brynhawn Sadwrn.
Roedd y gêm, yn erbyn Crynant, wedi cael ei threfnu er cof am un o selogion y clwb a fu farw yn gynharach eleni.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y clwb: "Rydym wedi colli brawd ar y maes ac mae'n peri gymaint o loes."
Ychwanegodd y neges: "RIP Alex... mae'r clwb a'r gymuned gyfan mewn sioc ac yn tristáu".
Ymdrechion i'w adfywio
Dywedodd Ysgrifennydd Clwb Rygbi Cwmllynfell, Gareth Evans bod Mr Evans wedi gadael y maes gan nad oedd yn teimlo'n dda a'i fod wedi llewygu wedi hynny.
Ychwanegodd bod pobl "wedi gwneud eu gorau" i'w adfywio a bod gan y clwb ddiffibriliwr, ond "yn anffodus, o'dd e ddim ddim yn ddigon".
Mae tudalen ariannu torfol wedi ei threfnu ar-lein er mwyn cefnogi teulu Mr Evans, sy'n gadael cymar, Ceri a merch ifanc, Ruby.
"Roedd Alex yn grwt hoffus," meddai Gareth Evans. "O'dd amser 'da fe i bawb.
"Ta beth o'dd e'n neud, o'dd e'n neud e gyda gwên ar ei wyneb e, p'un ai ta gwaith, whare rygbi, treino, ca'l peint 'da fe... 'na'r ffordd fyddan ni gyd yn ei gofio fe, fi'n credu."
Mae Undeb Rygbi Cymru a chorff llywodraethu rygbi'r byd, World Rugby ymhlith y cannoedd o sefydliadau ac unigolion sydd wedi cydymdeimlo gyda theulu, ffrindiau, cyd-chwaraewyr a holl aelodau'r clwb.
'Brawd - ar ac oddi ar y cae'
Mae'r don o negeseuon o gydymdeimlad a chefnogaeth yn arwydd, medd Gareth Evans, o'r "cariad ato yn y gymuned ac yn ehangach".
"Ni wedi colli brawd - brawd ar y cae, brawd off y cae. O'dd e'n grwt ffit - o'dd beth ddigwyddodd ddoe, wel, mae'n tragic."
Mae'n galw am osod diffibrilwyr ar faes pob clwb chwaraeon.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi cael galwad "tua 15:00 ynghylch adroddiadau o berson oedd angen triniaeth feddygol frys yng Nghlwb Rygbi Cwmllynfell".
Ychwanegodd eu bod wedi danfon un cerbyd ymateb cyflym, dau ambiwlans brys ac un cerbyd o'r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod swyddogion wedi mynd i'r clwb wedi adroddiadau bod dyn 31 oed wedi cael ataliad ar y galon.
Ychwanegodd bod "dim amgylchiadau amheus" a bod manylion yr achos wedi eu rhoi i'r crwner.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2021