Arestio tri yn dilyn marwolaeth dyn ger Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae tri o bobl wedi cael eu harestio yn dilyn marwolaeth dyn ger Wrecsam ddydd Llun.
Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i ddigwyddiad yn ardal Cristionydd pentref Pen-y-cae, a hynny am tua 20:25.
Yn dilyn hynny cafodd dyn yn ei 50au ei gludo i'r ysbyty, ble bu farw'n ddiweddarach.
Wedi i'r tri gael eu harestio, dywedodd yr heddlu nad oedd bygythiad pellach i'r gymuned ehangach.
Mae disgwyl i swyddogion ryddhau rhagor o wybodaeth yn y man, ond yn y cyfamser maen nhw wedi apelio ar unrhyw un oedd yn dyst i'r digwyddiad i gysylltu â nhw.