Triathletwr o Gymru wedi'i anafu'n ddifrifol

  • Cyhoeddwyd
Nathan FordFfynhonnell y llun, Huw Fairclough
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nathan Ford yn adran gofal dwys ysbyty yn yr Alban

Mae triathletwr o Gymru wedi dioddef anafiadau "sy'n peryglu bywyd" wrth gystadlu mewn digwyddiad yn yr Alban.

Dioddefodd Nathan Ford anafiadau i'w asgwrn cefn a'i ymennydd ym Mhencampwriaeth Triathlon Prydain yn Aberfeldy ar 22 Awst.

Mae nawr mewn adran gofal dwys yn yr Alban, a'n methu anadlu na symud yn annibynnol, yn ôl ei wraig Catrin Ford a ysgrifennodd ar wefan codi arian.

Dywedodd prif weithredwr Triathalon Cymru, Beverly Lewis fod damweiniau fel hyn yn "brin" a bod ei meddyliau gyda'i deulu.

Mewn datganiad gan yr ŵyl dywedon nhw eu bod yn gweithio ar y cyd gyda threfnwyr y digwyddiad i ddeall "union fanylion" y digwyddiad a bydd mwy o fanylion am y digwyddiad yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Ysgrifennodd Mrs Ford ar y dudalen codi arian fod y teulu wedi "torri eu calon".

Er nad oedd yr anaf i ymennydd Mr Ford "mor wael ag yr oedden ni'n disgwyl i ddechrau", mae'r anaf i'w asgwrn cefn "yn waeth na fyddwn ni erioed wedi dychmygu", meddai.

Mae ei deulu yn barod wedi codi mwy o arian na'r targed o £10,000 er mwyn helpu nhw i aros gerllaw tan bod Mr Ford yn gallu cael ei symud yn agosach i'w gartref.

"Rydyn ni wedi dechrau'r tudalen yma er mwyn cefnogi fy hun [gwraig Nathan] a'i deulu, i fod yn agos at Nathan yn ystod y cyfnod anodd yma," meddai Mrs Ford.

"Rydyn ni 500 milltir o adref ac rydyn yn gobeithio aros yma tan fod Nathan yn gallu cael ei symud yn agosach i'w gartref.

"Rydyn ni'n chwilio am unrhyw gyfarpar, cefnogaeth a gwasanaethau ychwanegol all ein helpu ni i helpu Nathan."

Pynciau cysylltiedig