Cyngor i brofi disgyblion uwchradd yn rheolaidd
- Cyhoeddwyd
![Dosbarth](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/147A2/production/_120247838_gettyimages-1231489258.jpg)
Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer plant sy'n dychwelyd i'r dosbarth ym mis Medi yn cynnwys cymryd prawf canlyniad cyflym ddwywaith yr wythnos yn achos disgyblion uwchradd.
Hefyd mae angen i ddisgyblion uwchradd a myfyrwyr coleg gymryd dau brawf, dridiau ar wahân, yn yr wythnos cyn diwrnod cyntaf y tymor.
Yn achos ysgolion cynradd dim ond staff sy'n gorfod cymryd profion rheolaidd.
Dywed undeb y prifathrawon, NAHT Cymru eu bod yn "croesawu" profi cyson.
Bydd rhaid i ddisgyblion hunan-ynysu a threfnu prawf PCR petawn nhw'n cael canlyniad positif wrth brofi eu hunain gartref.
![Plant ysgol](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/FA2C/production/_120244046_gettyimages-1248722525-1.jpg)
Bydd disgwyl i ddisgyblion barhau i olchi eu dwylo yn rheolaidd a chael brechiad os yw ar gael
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod cymryd y profion yn rheolaidd yn helpu "adnabod dysgwyr heintus cyn iddynt adael y cartref i fynd i'r ysgol".
Bydd disgwyl i ddisgyblion Blwyddyn 7 ac uwch i barhau i wisgo mygydau mewn mannau cymunedol ysgolion ac ar drafnidiaeth ysgol.
Y canllawiau i ddisgyblion ar gyfer dechrau'r tymor newydd
Cael brechiad os yw un yn cael ei gynnig;
Parhau i olchi'r dwylo'n gyson;
Rhaid i unrhyw ddisgybl neu aelod staff aros adref a threfnu prawf PCR os oes gyda nhw symptomau Covid-19, waeth pa mor ysgafn;
Dylai staff ysgolion cynradd, a staff a disgyblion ysgolion uwchradd gymryd dau brawf canlyniad cyflym yn yr wythnos cyn y diwrnod cyntaf yn ôl;
Dylid barhau wedyn i gymryd prawf canlyniad cyflym ddwywaith yr wythnos;
Dylai disgyblion Blwyddyn 7 ac uwch barhau i orchuddio'r wyneb wrth deithio i'r ysgol neu'r coleg.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Jeremy Miles bod pobl 16 a 17 oed wedi cael cynnig dos cyntaf o'r brechlyn, ynghyd â phobl ifanc bregus rhwng 12 a 15 oed.
"Trwy barhau i ddilyn y mesurau hyn, gallwn oll edrych ymlaen at ddechrau blwyddyn fwy diogel a sefydlog ble taw'r ysgolion a'r colegau fydd y llefydd mwyaf saff i fyfyrwyr fod," meddai.
Dywedodd Laura Doel, cyfarwyddwr undeb NAHT Cymru, eu bod yn "croesawu parhad y profion canlyniadau cyflym fel un o'r mesurau lliniaru".
"Fodd bynnag, tra bo'r profion â rhan i'w chwarae i atal lledaeniad Covid-19, ni ddylid fod yr unig fesur i ddibynnu arno.
"Mae'n hanfodol, wrth i achosion ddechrau cynyddu yng Nghymru, ein bod yn cynnal mesurau cadarn mewn ysgolion i warchod dysgwyr a staff."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Awst 2021
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2021